Rydym yn paratoi ar gyfer Diwrnod Chwarae a gynhelir wythnos i heddiw – y digwyddiad mwyaf ar gyfer plant ar draws Wrecsam i ddod ynghyd a chael amser gwych wrth wlychu a baeddu yn y broses.
Bydd y bocs tywod anferth yn ôl ynghyd â chyfleoedd i adeiladu cuddfa, gwibgerti, rhoi cynnig ar y cwrs rhwystrau, osgoi’r llawr lafa, celf, gemau, pêl-fasged a digonedd o ddŵr wrth gwrs!
Mae’r Diwrnod Chwarae ar gyfer pobl o bob oedran, gan gynnwys babanod a phlant bach, plant hŷn, pobl yn eu harddegau, rhieni, gweithwyr proffesiynol a neiniau a theidiau, sydd i gyd yn cael gwahoddiad i ymuno yn y digwyddiad chwareus ac am ddim hwn.
Y cyfan a ofynnwn yw eich bod yn dod mewn hwyliau chwareus a dillad nad ydych yn poeni eu gwlychu a’u baeddu. Mae hefyd yn ddiwrnod gwych i gael picnic.
Mae PlayDay yn amlygu hawliau plant i chwarae
Nod y digwyddiad hwn yw tynnu sylw at hawl plant i chwarae, gan annog pobl i gydnabod gwerth chwarae i blant, eu teuluoedd a’u cymunedau lleol. Wrth wneud hyn, mae digwyddiad diwrnod chwarae Wrecsam yn rhan o’n hymrwymiad i sicrhau bod pob plentyn ar draws y fwrdeistref sirol yn cael digon o amser, lle a chaniatâd i chwarae.
Mae’n bosibl y byddwch hefyd yn dymuno darllen Cadwch y Dyddiad – Diwrnod Chwarae Wrecsam, dydd Mercher 02.08.23 – Newyddion Cyngor Wrecsam
Cynllun Teithio Llesol – Darllenwch am y cynigion a dweud eich dweud drwy ein harolwg ar-lein.