Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Mae gŵyl wyddoniaeth Wrecsam yn dychwelyd fis Awst yma – archebwch nawr!
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Mae gŵyl wyddoniaeth Wrecsam yn dychwelyd fis Awst yma – archebwch nawr!
Pobl a lleYn cael sylw arbennig

Mae gŵyl wyddoniaeth Wrecsam yn dychwelyd fis Awst yma – archebwch nawr!

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 26, 2023 3:25 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Children playing with life size model
RHANNU

Mae rhifyn 2023 o Ŵyl Wyddoniaeth DARGANFOD//DISCOVER bron yma!

Cynnwys
  • ‘Yr ŵyl fwyaf cyffrous rydyn ni erioed wedi’i chynnal’
  • Diwrnod allan gwerthfawr i’r teulu – archebwch nawr

Xplore! Mae Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth a Tŷ Pawb yn dod at ei gilydd unwaith eto i gynnal gŵyl wyddoniaeth a chelf wych yng nghanol dinas Wrecsam.

Ymunwch â ni ar Awst 5ed a 6ed am strafagansa o ddeinosoriaid, robotiaid, gemau fideo, gofod allanol a llawer mwy yn y canol!

CELFYDDYDAU, MARCHNADOEDD, CYMUNED – COFRESTRWCH I DDERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB.

‘Yr ŵyl fwyaf cyffrous rydyn ni erioed wedi’i chynnal’

Diolch i gyllid gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, busnes lleol Aparito a grantiau a ddyfarnwyd i Xplore!, mae gan eleni raglen fwy nag erioed o’r blaen. Bydd yr ŵyl ddeuddydd hefyd yn cynnwys gweithdai a sioeau yn amlygu gwyddoniaeth Roald Dahl a byd anhygoel cemeg!

Dywedodd y Cynghorydd Nigel Williams, Aelod Arweiniol yr Economi ac Adfywio “Rydym wrth ein bodd ein bod yn gweithio gydag Xplore! Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth unwaith eto i ddod â’r digwyddiad gwych hwn i ganol dinas Wrecsam. Roedd gŵyl y llynedd yn brofiad gwirioneddol lawen ac roedd yn wych gweld cymaint o deuluoedd yn crwydro ein dau leoliad ac yn mwynhau darganfod popeth gwyddoniaeth a chelf. Rydym yn falch iawn o barhau â’n partneriaeth ag Xplore! ac rydym yn edrych ymlaen at groesawu’r ŵyl hon yn ôl i strydoedd Wrecsam wrth iddi barhau i dyfu.”

Dawn Pavey, Swyddog Prosiect yn Xplore! Meddai “Mae DARGANFOD//DISCOVER yn dychwelyd i Wrecsam am y drydedd flwyddyn yn ddatganiad gwych o fuddsoddiad parhaus mewn digwyddiadau yng nghanol dinas Wrecsam.

“Mae’r ŵyl yn rhoi llwyfan i alluogi mwy o bobl i ymgysylltu â Wrecsam, nid yn unig fel cyrchfan i dwristiaid ond i brofi’n uniongyrchol y rhyngweithio cyffrous rhwng gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, mathemateg a’r celfyddydau. Rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu pawb ar gyfer yr ŵyl fwyaf amrywiol a chyffrous rydyn ni erioed wedi’i chynnal!”

Diwrnod allan gwerthfawr i’r teulu – archebwch nawr

Mae nifer o opsiynau tocyn ar gael ar gyfer yr ŵyl gyfan – gan gynnwys tocyn teulu.

Am ragor o wybodaeth am yr ŵyl, gan gynnwys amserlen lawn a thocynnau, ewch i gwefan Tŷ Pawb

Gweler ein tudalen Rhaglen i gael rhagor o wybodaeth am ddigwyddiadau sydd i ddod

Rhannu
Erthygl flaenorol Wrexham Playday Sandpit Rydym i gyd yn gyffrous gan mai ond wythnos sydd yna i fynd ar gyfer Diwrnod Chwarae Wrecsam 2023
Erthygl nesaf Prosiect Gwaith Chwarae Mae’n hwyl, mae am ddim, ac fe all pethau fod yn flêr!  Amser i chwarae trwy gydol yr haf…

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mimica
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg
Hydref 20, 2026
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Pobl a lle
Hydref 20, 2026
Meet the Supertrees event
Digwyddiad teuluol ‘Meet the Supertrees’ yng Nghanolfan Adnoddau Gwersyllt (28 Hydref)
Pobl a lle Datgarboneiddio Wrecsam Digwyddiadau
Hydref 20, 2026
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Pobl a lle
Hydref 20, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da
Pobl a lleDigwyddiadauFideo

Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da

Hydref 20, 2026
Ty Pawb and Pittsburgh University
Pobl a lle

Wrecsam a Pittsburgh i gydweithio ar arddangosfa gelf ryngwladol newydd fawr

Hydref 12, 2026
The People’s Emergency Briefing next screening is at
DigwyddiadauDatgarboneiddio WrecsamFideo

Ydych chi wedi gwylio The People’s Emergency Briefing? Archebwch eich tocynnau ar gyfer y dangosiad nesaf (17 Hydref)

Hydref 9, 2026
Cyngor Wrecsam yn croesawu cyllid ar gyfer cynllun adfer canol y ddinas
Pobl a lle

Cyngor Wrecsam yn croesawu cyllid ar gyfer cynllun adfer canol y ddinas

Hydref 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English