Does dim dianc rhagddo. Mae siopau coffi yn dod yn fwy a mwy poblogaidd a gyda thri yn agor bob dydd ym Mhrydain, mae’n olygfa gyffredin i weld pobl yn mynd o gwmpas eu pethau o ddydd i ddydd gyda choffi i fynd yn eu llaw.
I weld sut oedd y duedd hon yn cael effaith ar fasnach yn lleol, penderfynom bicio draw i weld Andy Gallanders a’i frawd Phil sy’n rhedeg King Street Coffee a Bank Street Coffee a agorwyd yn ddiweddar rhyngddynt.
“roedd yn teimlo ei fod yn syniad da”
Cafodd y brodyr ill dau eu geni a’u magu yn Wrecsam ac yn syml, roedd agor siop goffi yng nghanol y dref yn “teimlo ei fod yn syniad da”. Roedd Andy wedi bod yn edrych ar eiddo ers tro a, gydag anogaeth ei frawd, sy’n farista, aethant ati i agor ym mis Ebrill 2016 ac wedi bod yn creu coffi ers hynny.
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.
Mae King Street Coffee wedi bod mor llwyddiannus fel eu bod wedi ennill Gwobr Twristiaeth Wrecsam 2017 am y caffi/te gorau.
Gofynnom iddynt a oeddynt wedi cael llawer o help gan ein staff canol y dref i sefydlu ac roeddent yn ganmoliaethus iawn am dîm Cyrchfan Wrecsam yn benodol, sydd bob amser wedi cynnig cefnogaeth gref.
Yn fwy diweddar, gwnaethom eu helpu i ddod o hyd i gadeiriau ar gyfer eu digwyddiad yn Un Deg Un. Digwyddiad a welodd dros 150 o bobl yn dod i’r “Voicebox Collective” wythnosol a oedd yn cynnwys y Bardd a’r bersonoliaeth YouTube Americanaidd, Neil Hilbourne, ac mae ei fideo ohono yn darllen un gerdd wedi ei weld dros 1 miliwn o weithiau! Trefnwyd y digwyddiad gan Phil ac wrth gwrs roedd King Street Coffee yn bresennol i sicrhau fod pawb yn cael penned wych o goffi.
dydyn ni ddim yn hoffi dweud na
Dywedodd Phil:
“Mae’r ddau ohonom wedi gweithio’n galed iawn ac wedi bod yn barod mynd yr ail filltir, gan weithio y tu allan i oriau gwaith i fynd i ddigwyddiadau. Rydym hyd yn oed wedi darparu coffi i ystafell y wasg yn ystod y ddau etholiad diwethaf – dydyn ni ddim yn hoffi dweud na! Rydym hefyd yn ceisio cefnogi’r economi lleol gymaint ag y gallwn ni ac yn hoffi prynu’n lleol iawn yn enwedig wrth ddod o hyd i gacennau.
“dyfodol cyffrous”
“Fy nghyngor i fasnachwyr annibynnol eraill neu rai sy’n ystyried sefydlu busnes yn Wrecsam yw adnabod eich busnes a gwrando ar eich cwsmeriaid. Mae gan Wrecsam ddyfodol cyffrous iawn ac yn y 12 mis nesaf, dwi’n rhagweld y bydd mwy a mwy o siopau annibynnol yn agor. Y cyfleuster celfyddydau a marchnad newydd yw un esiampl o’r fath lle mae digonedd o gyfleoedd ar gael.
Gofynnom i Phil sut roedd wedi hysbysebu ei fusnes? Ei ymateb oedd rhoi pleidlais aruthrol o blaid cyfryngau cymdeithasol.
“Rydan ni’n defnyddio Facebook, Twitter ac Instagram ac wedi darganfod fod hynny’n denu digonedd o gwsmeriaid a dilynwyr. Mae’n rhad ac am ddim ac os byddem ni eisiau talu am hysbyseb fach ar Facebook, gallai £50 ein rhoi mewn cysylltiad ag 80,000 o bobl. Mae gan gyfryngau cymdeithasol y fantais ychwanegol o fedru mesur sawl cwsmer posibl sy’n gweld y negeseuon ac yn fwy pwysig, a ydynt yn hoffi’r hyn maent yn ei weld.”
“Perthynas positif”
Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol Datblygu Economaidd ac Adfywio:
“Mae King Street Coffee wedi dod yn enw cyfarwydd yn Wrecsam ac mae’r brodyr i’w llongyfarch am wneud eu gwaith cystal. Mae’n dda clywed ein bod wedi rhoi digon o gefnogaeth iddynt ac rwy’n gobeithio y bydd y berthynas gadarnhaol iawn hon yn parhau ymhell i’r dyfodol.”
Felly os oes awydd coffi arnoch a darn ffres o gacen, does dim angen i chi edrych ymhellach na siopau annibynnol King Street Coffee neu Bank Street Coffee.
Am fwy o fanylion ynglyn a sefydlu busnes yn Wrecsam, galwch:
FFONIWCH AR EICH FFÔN SYMUDOL