Cau ffordd yn llawn yn Lôn Crispin rhwng 13:00 a 23:59.
Unffordd ar Ffordd yr Wyddgrug rhwng 13:00 a 21:45.
Cau ffordd yn llawn yn Ffordd yr Wyddgrug rhwng 21:45 a 23:59.
Cyn y Digwyddiad
Ffordd yr Wyddgrug yn Unffordd – teithiwch allan o’r ddinas tuag at gylchfan B&Q – rhwng 13:00 a 21:45, gyda thraffig i mewn (gan gynnwys preswylwyr, Parcio a Theithio a bysiau i’r digwyddiad) yn defnyddio llwybrau amgen, naill ai wedi’u cyfeirio neu eu hatgyfeirio. Bydd hyn yn lleihau unrhyw ddryswch yng Nghylchfan B&Q ac felly yn gwella llif traffig.
Bydd Parcio a Theithio ac unrhyw fysiau i’r digwyddiad yn cael eu cyfeirio drwy’r dref, naill ai drwy Ffordd Rhuthun a chaniateir gollwng ar ochr fewnol Ffordd yr Wyddgrug, yna ailymuno gyda’r ffordd gerbydau allan. Bydd TM Operatives yn rheoli hyn.
Bydd gan breswylwyr fynediad at y ffyrdd ochr draw i’r stadiwm drwy Ganol y Dref.
Bydd Lôn Crispin ar gau gyda mynediad i breswylwyr o Stansty Road yn unig.
Ar ôl y Digwyddiad
Bydd Ffordd yr Wyddgrug a Stryt y Rhaglaw yn cau yn llawn (yn unol â’r cynllun) rhwng 21:45 a 23:59 tra bydd pobl yn gadael y stadiwm, a bydd mynediad i breswylwyr yn cael ei reoli ar bob ochr gan Amberon TMO’s.
Ffyrdd a Effeithir
Ffordd Grosvenor, Bradley Road, Stryt y Rhaglaw, Stansty Road (dan y bont)
Bydd yr holl draffig o Brifysgol Glyndŵr yn gadael i Gylchfan Plas Coch
Bydd holl draffig o Ysgol Plas Coch i Stansty Chain Road.
Bydd Lôn Crispin ar gau wrth fynediad i gefn y stadiwm.
Rheoli Traffig
- Bydd y ffyrdd at Gylchfan B&Q yn cael ei leihau i 2 lôn o Ffordd Plas Coch i atal troi i’r chwith tuag at ganol y dref.
- Bydd Central Road gyda chonau i un lôn, i gyfeirio traffig i Stryt y Rhaglaw tuag at y dref ar gyfer y cyfnod cau llawn.
- Bydd rhan o’r briffordd ‘sydd ar gau’ ar Ffordd yr Wyddgrug gyda chonau ar gyfer gollwng o Fysiau/ Coetsys. Bydd Traffic Management Operatives yn rheoli hyn.
- Monitro traffig ar Gyffordd 4 a A525 ger Maes Parcio a Theithio, a gweithredu yn ôl yr angen.