Ydych chi’n gweithio yn y maes adeiladu? Neu efallai yr hoffech chi dderbyn hyfforddiant am ddim mewn sgiliau adeiladu traddodiadol?
Ydych chi’n gontractwr sy’n awyddus i gynyddu sgiliau eich gweithlu yn Wrecsam?
Yn sgil partneriaeth gyda nifer o ddarparwyr a chyllidwyr – gan gynnwys Coleg Cambria – rydym wedi llwyddo i ddechrau ystod newydd o gyrsiau sy’n helpu rhoi’r sgiliau y mae pobl eu hangen i weithio yn y sector adeiladu treftadaeth a chynyddu sgiliau’r diwydiant adeiladu mewn sgiliau adeiladu traddodiadol.
PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM EBOSTIAU WYTHNOSOL RŴAN.
Bydd gweithdai hyfforddi yn dechrau ar safle Coleg Cambria ar Ffordd y Bers yr wythnos hon, gan ganolbwyntio bob diwrnod ar wahanol gyrsiau.
- Dydd Mawrth, 17 Ebrill – Myfyrwyr HNC
- Dydd Mercher, 18 Ebrill – Myfyrwyr Plastro Blwyddyn 1 a 2
- Dydd Iau – Myfyrwyr Gosod Briciau Blwyddyn 1 a 2
Bydd bob diwrnod hyfforddiant yn dechrau am 9am tan 4pm.
Bydd hyfforddiant yn rhan o gynlluniau treftadaeth canol tref
Efallai y cofiwch chi’r newyddion y llynedd ein bod wedi cyflwyno cais am gyllid gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, gyda’r nodd o hybu’r gwaith o adfywio adeiladau yn yr Ardal Gadwraeth yng Nghanol Tref Wrecsam.
Ond yn hytrach nac ailwampio adeiladau gan ddefnyddio technegau modern, o ystyried fod yr adeiladau dan sylw wedi eu cynnwys mewn Ardal Gadwraeth – ac yn asedau treftadaeth amlwg iawn yn ein tref – rydym eisiau sicrhau fod y dulliau a ddefnyddir i adfywio’r adeiladau hynny yn cyd-fynd â sgiliau traddodiadol a helpodd eu hadeiladu yn y lle cyntaf.
Os yw’r cais am gyllid yn llwyddo, byddai’r ymdrech hon am sgiliau adeiladu traddodiadol yn rhan allweddol o’r prosiect adnewyddu hynny, gan roi safleoedd i bobl weithio ar eu sgiliau crefft newydd ac hefyd yn dod a bywyd newydd i rai adeiladau yn yr ardal gadwraeth.
Nod y prosiect cyffredinol yw darparu addysg, hyfforddiant a rhoi sgiliau ychwanegol i bobl yn Wrecsam i ddod o hyd i waith mewn gwaith adeiladu treftadaeth – a byddai’r cyrsiau hyn yn rhan o hynny.
“Pawb yn elwa yn Wrecsam”
Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol Perfformiad Economaidd ac Adfywio: “Bydd hwn yn gynllun rhagorol ar gyfer pobl ifanc sy’n awyddus i ennill sgiliau newydd – sgiliau a fydd yn rhoi mantais iddynt mewn sector gystadleuol iawn.
“Ac, os bydd ein cais am gyllid gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri ar gyfer adfywio canol y dref yn yr Ardal Gadwraeth yn llwyddo, byddai’r gwaith a fydd yn cael ei wneud ar y cyrsiau hyn yn cyd-fynd yn dda â’r gwaith hwnnw – byddai pawb sy’n gysylltiedig wir yn elwa o hyn.
“Byddwn yn cynghori unrhyw fyfyriwr a phrentis yn y crefftau adeiladu – neu rhai sydd eisoes yn y diwydiant ac yn awyddus i ychwanegu at eu profiad – i ddod draw a gweld beth allai’r cyrsiau hyn ei gynnig iddynt.”
Dywedodd Ceri Rush Jones, Rheolwr Lleol CITB Gogledd a Chanolbarth Cymru: “Rwyf wedi gweld y gwaith caled a’r brwdfrydedd sydd wedi mynd tuag at greu partneriaeth gadarn sydd wedi cydweithio i greu cyfle i fyfyrwyr lleol gael sgiliau perthnasol mewn gwaith adeiladu treftadaeth.
“Yn y pen draw bydd hyn yn helpu cynnal ac atgyweirio adeiladau yn ardal gadwraeth Wrecsam. Yn ogystal, gwahoddir cwmnïau adeiladu lleol hefyd i gynyddu sgiliau eu gweithlu presennol i sicrhau y gall pobl leol weithio yn eu cymuned eu hunain. Rwy’n llongyfarch gwaith caled ac ymroddiad pawb sy’n gysylltiedig, ac edrychaf ymlaen at fynd i un o’r sesiynau fy hun.”
Dwedodd Karl Jackson, cynrichiolydd am Goleg Cambria: “Mae Coleg Cambrig yn falch o gefnogi rhaglen sgiliau traddodiadol Wrecsam. Mae gan y Coleg enw da mewn datblygu ystod eang o gyrsiau adeiladu a pheirianneg. Mae’r cyfle i ehangu’r rhaglenni hyn gyda sgiliau traddodiadol a hanesyddol pellach i’w groesawu a’i gefnogi.
“Mae gennym gysylltiadau gwych gyda’n Sylfaen cyflogwyr ac rwy’n hyderus byddant yn gwerthfawrogi’r cyfle i uwchsgilio eu gweithlu, gan eu galluogi i dendro am waith o fewn prosiectau adfywio Wrecsam.”
Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am ebostiau wythnosol rŵan.
COFIWCH EICH BINIAU