Cynhaliodd Gwesty’r Wynnstay yn Wrecsam gynulliad pwysig i lansio rhaglen o ddigwyddiadau a fydd, drwy gydol 2026, yn dathlu 150 mlwyddiant “Blwyddyn o Ryfeddod” y ddinas ym 1876.
Yn y flwyddyn 1876, ffurfiwyd Cymdeithas Bêl-droed Cymru, agorwyd Mynwent Ffordd Rhiwabon, cynhaliwyd yr Arddangosfa Trysorau Celf a Diwydiannol pedwar mis o hyd, cynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol yn y dref am y tro cyntaf, agorwyd system tram wreiddiol Wrecsam, a llawer mwy.
Roedd hon yn flwyddyn hynod bwysig yn hanes Wrecsam, ac yn ystod y cyfarfod, a gynhaliwyd ar brynhawn dydd Mercher 23 Gorffennaf, yn y Wynnstay, yr oedd Maer Anrhydeddus Wrecsam, y Cynghorydd Tina Mannering, yn bresennol ynddo, daeth gwahanol grwpiau ynghyd sydd eisoes yn bwriadu coffáu’r digwyddiadau hynny, a llawer o rai eraill, y flwyddyn nesaf.




Dywedodd y Cynghorydd Beverley Parry-Jones, Aelod Arweiniol Cyngor Wrecsam sydd â chyfrifoldeb dros lyfrgelloedd, a oedd yn bresennol yn y digwyddiad: “Roedd hi’n fraint fawr cael bod yn bresennol yn y digwyddiad hwn, ac rwy’n siŵr bod cyfnod cyffrous o’n blaenau i Wrecsam gyfan.”
Ymysg y myrdd o ddigwyddiadau sydd eisoes yn cael eu cynllunio mae rhaglen Tŷ Pawb ar gyfer ysgolion lleol, teithiau i nodi agoriad Mynwent Wrecsam, Gŵyl Gerdded Wrecsam a gŵyl lenyddol, Gŵyl Geiriau Wrecsam.
Bydd gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru ei rhaglen ei hun o ddigwyddiadau hefyd, a bydd stadiwm Clwb Pêl-droed Wrecsam yn cynnal gemau ym Mhencampwriaeth Bêl-droed Dan-19 Ewrop UEFA, pan fydd wyth tîm cenedlaethol, gan gynnwys Cymru, yn cystadlu.
Mae gan Eglwys San Silyn ddau ben-blwydd pwysig i’w nodi, gan gynnwys gosod y clychau 300 mlynedd yn ôl, ynghyd â gosod cyfarpar canu clychau Ellacombe 150 mlynedd yn ôl. Bydd gwasanaeth arbennig ar Ddydd Gŵyl Dewi fel rhan o’r ystod ehangach o ddigwyddiadau i ddathlu’r diwrnod.
Roedd cerddoriaeth yn nodwedd bwysig o’r arddangosfa Trysorau Celf ym 1876, a bydd hyn hefyd yn cael ei adlewyrchu yn rhaglen 2026 gan gynnwys digwyddiadau gan Gerddorfa Symffoni Wrecsam a Chantorion Sirenian, wrth i gorau lleol berfformio ledled Wrecsam fel rhan o Strydoedd Canu. Mae gwaith hefyd yn mynd rhagddo ar opera newydd gan Sinfonia NEWYDD, yn dilyn eu hopera lwyddiannus, Gresffordd: I’r Goleuni ‘Nawr,a gynhyrchwyd i nodi 90 mlynedd ers trychineb mwyngloddio Gresffordd.
Gydag Amgueddfa Wrecsam yn bwriadu ailagor yng ngwanwyn 2026, ar ôl iddi gael ei hadnewyddu, bydd arddangosfeydd am Gymdeithas Bêl-droed Cymru, Theatr Grove Park ac Arddangosfa Trysorau Celf 1876. Un o’r trysorau a arddangoswyd yn arddangosfa Trysorau Celf 1876 oedd Cwilt Rhyfeddol Wrecsam, a gynhyrchwyd gan y prif deiliwr milwrol, James Williams, sydd ar hyn o bryd yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, a’r gobaith yw dod â’r arteffact hwn yn ôl i’w arddangos yn Wrecsam.
Ymysg y digwyddiadau eraill sydd ar y gweill ar gyfer 2026, mae rhai gan Gymdeithas Ddinesig Wrecsam, Prosiect y Glowyr, Peregrine Circus, RWF Fest ym Marics Hightown, ac Expo a Chynhadledd Ddiwydiannol ym Mhrifysgol Wrecsam.
Mae dau ganmlwyddiant pwysig hefyd yn cael eu nodi, gan gynnwys Theatr Grove Park, y mae ei ddathliadau yn dechrau eleni, a’r Stiwt yn Rhosllanerchrugog ym mis Medi 2026.
Ychwanegodd y Cynghorydd Hugh Jones, yr Aelod Arweiniol sy’n gyfrifol am Ddinas Diwylliant a’r celfyddydau: “Bydd hi’n wych dathlu nid yn unig y 150 mlynedd ddiwethaf o’n diwylliant, celfyddydau a diwydiant, ond hefyd gyflawniadau presennol y ddinas, yn ogystal ag edrych ymlaen at ein dyfodol. Gyda’r Eisteddfod Genedlaethol yn cael ei chynnal yn Wrecsam, a chynlluniau’n cael eu gwneud i nodi pen-blwydd y Flwyddyn o Ryfeddod yn 2026, mae’n addo bod yn amser cyffrous i’r celfyddydau a diwylliant yn y fwrdeistref sirol.”
Dywedodd Prif Weithredwr dros dro Cyngor Wrecsam, Alwyn Jones, “Rwyf am longyfarch y rheini sy’n cymryd rhan am dynnu hyn i gyd at ei gilydd. Er y byddai llawer o’r digwyddiadau hyn wedi digwydd ar wahân, mae’n dyst i ysbryd a diwylliant cymunedol Wrecsam ein bod nawr yn mynd i gael blwyddyn o ddathlu treftadaeth ac enw da Wrecsam, yma yng Nghymru ond hefyd yn rhyngwladol.”
Ysbrydolwyd y syniad gwreiddiol ar gyfer y flwyddyn o ddathlu gan y llyfryn Wrexham Revealed, a gynhyrchwyd gan Ŵyl Geiriau Wrecsam – “gŵyl lenyddol unigryw” Wrecsam. Mae’r llyfr poced yn awgrymu 20 o leoedd i ymweld â nhw o gwmpas canol y dref i bobl sydd am fwynhau taith hunan-dywys drwy hanes Wrecsam.
Dywedodd Cyfarwyddwr yr ŵyl, Dylan Hughes: “Mae’r llyfryn yn sôn am nifer o ddyddiadau arwyddocaol, ond mae’n tynnu sylw at faint ddigwyddodd ym 1876 ei hun, ac mae’r 150 mlwyddiant yn gyfle gwych i ni gofio pa mor falch y dylen ni i gyd fod o le Wrecsam yn y byd.” Bydd manylion y dathliad blwyddyn a’r digwyddiadau unigol ar gael ar wefan newydd sy’n cael ei datblygu, a fydd yn cael ei chyhoeddi’n fuan.
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.