Mae’n partneriaid newydd wedi cymryd gofal o gaffi cymunedol mewn parc gwledig poblogaidd.
Mae Groundwork Gogledd Cymru bellach wedi dechrau masnachu yn y caffi yn Nyfroedd Alun – a elwir bellach yn Caffi Cyfle.
Cyhoeddwyd y byddai Groundwork yn rhedeg y caffi yn ôl ym mis Chwefror.
CELFYDDYDAU, MARCHNADOEDD, CYMUNED – COFRESTRWCH I DDERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB .
Yn ôl y Cyng. David A Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Bydd y caffi’n parhau i gael ei redeg yn fasnachol, ac yn darparu lluniaeth i’r cannoedd o bobl sy’n ymweld â Dyfroedd Alun bob blwyddyn. Rwy’n ffyddiog y bydd Groundwork yn parhau gyda’r gwaith ardderchog y mae’r caffi wedi ei wneud yn y gorffennol o gynnig gwasanaeth i’r gymuned ynghyd â chyfleon i’r rhai sydd eu hangen.”
Dywedodd y Cyng. Joan Lowe, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Oedolion: “Mae’r caffi yn Nyfroedd Alun yn lle gwych i unigolion sydd ag anawsterau dysgu gael y cyfle i ddysgu sgiliau newydd, ac mae wedi darparu cyfleon a gwaith sy’n werthfawr iawn iddynt. Mae’r enw newydd, Caffi Cyfle, yn cyfleu’r ysbryd hwn i’r dim.
“Mae gan elusen Groundwork y profiad a’r adnoddau i barhau a’r gwaith, ac edrychwn ymlaen i weithio gyda nhw yn y dyfodol”
Cofrestrwch i dderbyn newyddion a diweddariadau gan Tŷ Pawb
DERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB