Mae gennym newyddion gwych am y caffi sy’n eiddo i’r cyngor ym Mharc Gwledig Dyfroedd Alun.
O Ebrill 1 bydd y caffi yn cael ei reoli ar ein rhan gan Groundwork Gogledd Cymru – sefydliad sy’n gweithio gyda nifer o bartneriaid a gwirfoddolwyr drwy gydol y rhanbarth i wella iechyd a lles ar draws Cymru.
O dan reolaeth Groundwork bydd y caffi yn cael ei enwi’n Caffi Cyfle.
Efallai eich bod yn cofio ein bod yn ôl yn yr hydref wedi bod yn edrych ar nifer o opsiynau ar gyfer gwasanaethau Dydd a Chyflogaeth ein Gwasanaethau Anableddau – amrediad o wahanol brosiectau busnes sy’n rhoi’r cyfle i bobl i gael hyfforddiant a chyflogaeth yn y gweithle.
Un o’r gwasanaethau dan ystyriaeth oedd y caffi yn Nyfroedd Alun lle mae oedolion gydag anableddau dysgu yn derbyn hyfforddiant a chyfleoedd gwaith.
“Yn falch iawn o’r newyddion hwn”
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Rydym yn falch iawn o allu cyhoeddi y bydd Groundwork Gogledd Cymru yn gyfrifol am reoli’r caffi yn Nyfroedd Alun ar ein rhan, gan barhau â’r gwaith rhagorol sydd eisoes wedi digwydd ac y bydd y caffi yn parhau i ddarparu gwasanaeth i’r gymuned a chyfleoedd ar gyfer y rhai sydd eu hangen.”
Dywedodd y Cynghorydd Joan Lowe, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Oedolion: “Mae’n newyddion rhagorol y bydd Groundwork Gogledd Cymru yn rhedeg y caffi yn Nyfroedd Alun.
“Mae wedi bod yn lle rhagorol ar gyfer unigolion gydag anawsterau dysgu i ddysgu sgiliau newydd ac mae wedi darparu cyfleoedd a gwaith iddynt a werthfawrogir yn fawr. Ac mae’r enw newydd, Caffi Cyfle yn ymgorffori’r ysbryd hwnnw.
“Mae Groundwork mewn sefyllfa dda iawn i barhau â’r gwaith hwnnw ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda nhw unwaith y byddant yn dod yn gyfrifol am y caffi ddechrau mis Ebrill.”
Dywedodd Karen Balmer, Prif Weithredwr Groundwork Gogledd Cymru: “Bydd Caffi Cyfle yn parhau â’r gwaith da sydd eisoes wedi ei wneud gan y Cyngor i gefnogi’r gymuned leol ac fe fyddwn yn parhau i ddarparu, ac yn wir yn datblygu, yr amrediad o gyfleoedd gwirfoddoli a chyflogaeth gynhwysol sydd ar gael drwy’r caffi.
“Rydym wedi rhoi bwydlen ynghyd sy’n adlewyrchu’r gorau o gynnyrch Cymreig wedi’i gymysgu gyda’n dawn ein hunain i gyffroi a phryfocio synnwyr blasu ein cwsmeriaid. Rydym yn gobeithio y bydd yn arwain at ddilynwyr ffyddlon ymhlith y gymuned leol ac ymwelwyr â’r ardal, ar gyfer ymweld â’r parc ac fel cyrchfan ynddo’i hun.”
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ysgol meithrin yn 2019 yw Chwefror 22
YMGEISIWCH NAWR