Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Gadewch i ni wneud yr haf hwn y taclusaf erioed a chadw Wrecsam yn rhydd o sbwriel
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Gadewch i ni wneud yr haf hwn y taclusaf erioed a chadw Wrecsam yn rhydd o sbwriel
Y cyngorPobl a lle

Gadewch i ni wneud yr haf hwn y taclusaf erioed a chadw Wrecsam yn rhydd o sbwriel

Diweddarwyd diwethaf: Mai 15, 2024 3:17 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Litter
RHANNU

Heddiw, rydym yn gofyn i bawb helpu i gadw Wrecsam yn daclus – a helpu i ofalu am ein cornel hyfryd ni o’r byd.

Cynnwys
  • Sut allaf wneud gwahaniaeth?
  • Gadewch i ni atal sbwriel rhag bod yn niwsans

Mae hyn yn bwysig i bobl, ac mae bellach yn bryd i ni weithio gyda’n gilydd ar draws Wrecsam i dacluso ein parciau, lleiniau glas a mannau agored.

Yn Wrecsam, rydym yn arbennig o lwcus i gael ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol a diddordeb gwyddonol arbennig, yn ogystal â pharciau a mannau agored y Faner Werdd… felly mae’n bwysig ein bod yn eu gweld ar eu gorau, heb sbwriel a’r broblem o faw cŵn a thipio anghyfreithlon.

Yn ogystal â difetha ein gallu i fwynhau ein hamgylchedd, mae sbwriel yn bygwth cynefinoedd a bywyd gwyllt. 

Sut allaf wneud gwahaniaeth?

  • Sicrhewch eich bod yn cario eich sbwriel adref gyda chi.
  • Sicrhewch eich bod yn clirio baw eich ci ar ôl iddo faeddu.
  • Trefnwch sesiwn casglu sbwriel cymunedol – gall Caru Cymru eich helpu gyda hyn a gallwch ddarganfod mwy ar-lein.   
  • Gallwch roi gwybod am unrhyw graffiti neu dipio anghyfreithlon ar-lein
  • Peidiwch â chael eich dal allan â chynnig ‘dyn mewn fan’.  Mae’n rhaid i unrhyw un sy’n gwaredu eich gwastraff feddu ar Drwydded Cludydd Gwastraff.  Sicrhewch eich bod yn gofyn i weld y drwydded cyn talu rhywun i waredu eich sbwriel.

Os byddwch yn dod ar draws sbwriel neu dipio anghyfreithlon, rhowch wybod drwy ein cyfleuster rhoi gwybod ar-lein.

Peidiwch â cheisio agor unrhyw fagiau na’u symud fel y gall ein swyddogion ymchwilio i’r mater yn ddiogel a gweld a oes unrhyw fanylion y gallwn eu defnyddio i gyflwyno dirwyon, neu hyd yn oed ystyried erlyniaeth neu rybudd cosb benodedig.

Gadewch i ni atal sbwriel rhag bod yn niwsans

Meddai’r Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd: “Rydym yn gwerthfawrogi ein cymunedau, ac rydym yn galw ar bawb i wneud gwahaniaeth drwy helpu i’w cadw’n lân ac yn daclus.

“Gall bob un ohonom helpu gyda hyn, a chyn belled ein bod yn gallu gwneud hynny’n ddiogel, dylai bob un ohonom wneud ein rhan i atal sbwriel rhag bod yn niwsans.

“Mae pob un o’r Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref ar agor a dylid mynd ag unrhyw wastraff dros ben i un o’r canolfannau hyn.

“Mae clirio sbwriel a thipio anghyfreithlon hefyd yn defnyddio amser ac adnoddau gwerthfawr.  Pan fyddwch yn edrych ar raddfa’r fwrdeistref sirol, mae’n amser ac adnoddau nad oes gennym. Felly, chwaraewch eich rhan a Chadw Wrecsam yn Daclus 

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch

Efallai yr hoffech hefyd ddarllen Gwasanaethau 4G a band-eang cyflym ar gyfer Gogledd Cymru

Rhannu
Erthygl flaenorol 60+ Cynnig 60 Oed a hyn: Cynllun Hamdden Actif 60+
Erthygl nesaf Recall A fyddech chi’n gwybod pe bai cynnyrch bwyd a brynwyd gennych yn cael ei alw’n ôl?

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

'Dathliad enfawr a gwyllt!' - Bandiau Wrecsam yn ymuno ar gyfer sioe lwyddiannus i lansio albwm
‘Dathliad enfawr a gwyllt!’ – Bandiau Wrecsam yn ymuno ar gyfer sioe lwyddiannus i lansio albwm
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 14, 2026
Parciau am ddim ar ddiwrnodau gemau
Wrecsam v Preston: dewiswch y parcio a theithio
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 14, 2026
Wrecsam yn paratoi ar gyfer y gaeaf sydd o'n blaenau
Wrecsam yn paratoi ar gyfer y gaeaf sydd o’n blaenau
Y cyngor
Hydref 14, 2026
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg
Hydref 13, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Sam Gardner
Pobl a lleDigwyddiadau

Athro ac awdur i roi sgwrs bwerus ar y system ofal

Hydref 8, 2026
Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026
DigwyddiadauDatgarboneiddio Wrecsam

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026

Hydref 13, 2026
Wrecsam a Pittsburgh i gydweithio ar arddangosfa gelf ryngwladol newydd fawr
Pobl a lle

Wrecsam a Pittsburgh i gydweithio ar arddangosfa gelf ryngwladol newydd fawr

Hydref 12, 2026
The People’s Emergency Briefing next screening is at
DigwyddiadauDatgarboneiddio WrecsamFideo

Ydych chi wedi gwylio The People’s Emergency Briefing? Archebwch eich tocynnau ar gyfer y dangosiad nesaf (17 Hydref)

Hydref 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English