Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Gwasanaethau 4G a band-eang cyflym ar gyfer Gogledd Cymru
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Gwasanaethau 4G a band-eang cyflym ar gyfer Gogledd Cymru
Busnes ac addysg

Gwasanaethau 4G a band-eang cyflym ar gyfer Gogledd Cymru

Diweddarwyd diwethaf: Mai 13, 2024 4:08 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Broadband
RHANNU

Erthygl gwestai gan Uchelgais Gogledd Cymru

Mynd i’r afael â mannau gwan am dderbyniad ffôn symudol ar gyfer busnesau yw’r flaenoriaeth yn yr achos busnes amlinellol diweddaraf i gael ei gymeradwyo am arian Cynllun Twf gan Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru.

Bydd Prosiect 4G+ yn ceisio datrys heriau cysylltedd yng Ngogledd Cymru er mwyn cryfhau gallu’r ardal i ddatblygu technolegau’r dyfodol a denu buddsoddiad.

Er bod buddsoddiad mewn 4G ac yn fwy diweddar 5G wedi cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae bylchau sylweddol o ran cwmpas a chapasiti’r rhwydwaith i gwrdd â gofynion cymunedau yn parhau.

Mae cysylltedd symudol gwael yn rhwystredig i drigolion a busnesau ac yn cael ei weld fel rhwystr i dwf, gan roi’r ardal ar y droed ôl wrth ddenu buddsoddiad.

Nod prosiect 4G+ (Safleoedd a Choridorau Allweddol Cysylltiedig) felly yw mynd i’r afael â hyn, drwy wella ansawdd cyswllt symudol mewn ardaloedd masnachol allweddol ac ar hyd rhwydweithiau trafnidiaeth.

Ynghyd â gwella darpariaeth y rhwydwaith, mae’r prosiect hefyd am gefnogi’r mudo i 5G, creu swyddi a denu buddsoddiad.

Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yw Aelod Arweiniol Cysylltedd Digidol ar Fwrdd Uchelgais Gogledd Cymru. Wrth groesawu’r penderfyniad ar yr achos busnes amlinellol ar gyfer y prosiect, dywedodd: “Mae effaith cysylltedd ffôn symudol ar yr economi yn amlwg i pawb ac ni allwn ei anwybyddu.

“Mae canol ein trefi a’n dinasoedd, ein parciau busnes a’n cymunedau i gyd angen cysylltedd symudol da, a heb os bydd y galw’n parhau i dyfu fel y mae ar draws gweddill y wlad.

“Mae cymeradwyo’r cam olaf ond un yma yn garreg filltir bwysig i’r cynllun. Yn ogystal â chefnogi strategaethau economaidd cenedlaethol a rhanbarthol, rhaid i’n ymdrechion i wella cysylltedd a chapasiti fod yn ganolog i’n nod o gynyddu GVA lleol a chreu swyddi.”

Mae’r prosiect 4G+ (Safleoedd a Choridorau Allweddol Cysylltiedig) yn rhan o Raglen Digidol Cynllun Twf Gogledd Cymru, sydd am weld gwasanaethau llais a data symudol yn cael eu cryfhau, ynghyd â band-eang ffibr i safleoedd masnachol allweddol.

Mae’n cael ei gefnogi gan y prosiect Ffibr Llawn, sydd am ddod â chysylltedd ffibr cystadleuol i safleoedd allweddol, ynghyd â buddsoddiad diwydiant a llywodraeth y DU.

Mae achosion busnes yn cael eu datblygu ar gyfer pob prosiect o fewn y Cynllun Twf ac mae pob cynllun busnes yn cynnwys cyfnod cynllunio’r prosiect ac yn adnabod yr opsiynau sy’n sicrhau’r gwerth cyhoeddus gorau yn dilyn gwerthusiadau manwl.

Mae’r penderfyniad yn golygu gallu prosiect symud i’r cam nesaf yn y broses – sef datblygu cynllun busnes llawn er mwyn sicrhau cefnogaeth y Cynllun Twf.

Rhannu
Erthygl flaenorol Ty Pawb Noson Meic Agored Tŷ PawbNoson Meic Agored Tŷ Pawb
Erthygl nesaf Estyn Y ddirwy uchaf bosibl i gwmni adeiladu

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Penley Hospital
Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna
Arall Pobl a lle
Medi 3, 2026
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lle Y cyngor
Medi 3, 2026
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Digwyddiadau Pobl a lle
Medi 2, 2026
Yorke Street
Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Minera Roof Trusses
Busnes ac addysg

Ehangu ar gyfer busnes teuluol yn dilyn grant Ardal Fuddsoddi

Awst 28, 2026
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Busnes ac addysg

Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol

Awst 20, 2026
Canlyniadau TGAU 2026 - Llongyfarchiadau i'n holl ddysgwyr
ArallBusnes ac addysgPobl a lle

Canlyniadau TGAU 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl ddysgwyr

Awst 20, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
ArallBusnes ac addysgPobl a lle

Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr

Awst 13, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English