Dysgu dros Ginio
Bydd Steve Grenter, Rheolwr y Gwasanaethau Treftadaeth, yn Amgueddfa Wrecsam yn darparu’r sesiwn Dysgu dros Ginio yn Llyfrgell Wrecsam y mis hwn, a bydd yn trafod hanes ac archeoleg Castell Holt, sydd wedi’i leoli ar lannau Afon Dyfrdwy ar ffin Cymru a Lloegr. Adeiladwyd y castell rhwng 1283 a 1311 gan John de Warenne a’i ŵyr, ieirll olynol Surrey, yn dilyn cwymp Llywelyn ap Gruffydd, tywysog Cymru. Darganfyddwch fwy am y safle hanesyddol yma ddydd Mercher, 3 Hydref, 1-2pm.
GALL Y DDAU GAM SYML YMA TROI CHI MEWN I ARCHARWR AILGYLCHU!
Sioeau Teithiol Iechyd a Lles
Mae nifer o ffactorau yn ein bywydau’n effeithio ar ein hiechyd, fel yr amgylchedd, cysylltiadau cymorth neu ddiffyg rhai, ble rydyn ni’n byw, ein harian neu ddiffyg arian, a’n ffordd o fyw. Beth bynnag yw eich amgylchiadau, efallai y gallwn ni eich helpu i fod yn iach yn eich bywyd bob dydd. I gael gwybod mwy, ewch i’n Sioeau Teithiol Iechyd a Lles yn Llyfrgell Wrecsam ddydd Mawrth 9 Hydref (drwy’r dydd), Llyfrgell Rhos ddydd Gwener 12 Hydref 10am-12pm a Llyfrgell Brynteg ddydd Gwener 12 Hydref, 12pm-6pm. Bydd rhywbeth i bawb gyda stondinau gwybodaeth a gweithgareddau drwy gydol y dydd. Allwch chi fforddio peidio â dod iddyn nhw?
Bydd yr awdur nofelau ditectif poblogaidd, Clare Mackintosh
Bydd Llyfrgell Wrecsam yn dathlu Wythnos Genedlaethol y Llyfrgelloedd eleni gydag ymweliad gan un o awduron mwyaf poblogaidd y Sunday Times, Clare Mackintosh. Treuliodd Clare Mackintosh ddeuddeng mlynedd yn yr heddlu, gan gynnwys amser yn yr adran ymchwilio i droseddau, ac fel cadlywydd trefn gyhoeddus. Gadawodd yr heddlu yn 2011 i weithio fel newyddiadurwr llawrydd ac ymgynghorydd cyfryngau cymdeithasol, ac mae hi rŵan yn ysgrifennu yn llawn amser. Roedd ei nofel gyntaf, I Let You Go, yn un o ddeg gwerthwr gorau y Sunday Times am 12 wythnos, a’r nofel a werthodd gyflymaf gan awdur trosedd newydd yn 2015. Cafodd ei dewis ar gyfer y Richard and Judy Book Club a ‘Loose Books’ Loose Women ITV, ac mae wedi gwerthu mwy na miliwn o gopïau ledled y byd. Bydd Clare yn trafod ei llyfr diweddaraf Let Me Lie yn Llyfrgell Wrecsam ar 11 Hydref, 2018 am 7pm. Mae tocynnau yn £5 yr un ac maent ar gael o’r llyfrgell neu ar-lein.
Sut i fod yn archarwr ailgylchu…mewn dau gam syml.
DERBYNIWCH AWGRYMIADAU AILGYLCHU