Fis diwethaf, fe wnaethom apelio ar i fusnesau lleol ymuno â chynllun “Lle Diogel” i sicrhau bod gan bawb sydd yn ymweld â Wrecsam le diogel i fynd iddo os ydynt yn teimlo’n orbryderus, panig, straen neu’n arbennig o ddiamddiffyn.
Mae’n bleser gennym roi gwybod i chi bod dros 20 busnes bellach wedi cytuno i’r cynllun ac mae mwy wrthi’n llenwi’r ffurflenni wrth i ni gyhoeddi.
Dywedodd y Cynghorydd Joan Lowe, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Oedolion: “Rydym ni wedi cael ymateb cwbl anhygoel ac fe hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cytuno i gynnig cymorth o dan y cynllun pwysig iawn yma.”
“Lle diogel pan fydd angen”
Mae menter “Lle Diogel” yn cael ei rhedeg gan SWS (Safonau Gwasanaethau Wrecsam) ac mae’n rhan o gynllun cenedlaethol. Mae’n rhoi sicrwydd i bobl o wybod bod ganddyn nhw, neu bobl maen nhw’n gofalu amdanynt, le diogel i fynd pan fydd angen. Gall y lle diogel fod yn siop, tafarn, llyfrgell, adeilad cyngor neu unrhyw le sydd ar gael i’r cyhoedd. Bydd sticer yn nodi bod y lle yn “Lle Diogel” a bydd hefyd yn ymddangos yn y gronfa ddata genedlaethol.
Bydd defnyddwyr wedi cofrestru a byddant yn cario “Cerdyn Lleoedd Diogel” gyda rhifau ffôn arno a dylent ei gario bob amser. Pan fyddant mewn “Lle Diogel”, bydd staff yn gallu defnyddio’r rhifau ffôn i ffonio aelod o’r teulu neu ffrind agos i ddod i roi cefnogaeth.
Mae’r holl hyfforddiant yn cael ei ddarparu gan SWS ac ni fydd yn para mwy nag 20 munud.
Os hoffech chi gofrestru i fod yn lle diogel, yna cysylltwch ar 01978 298475 a gofynnwch am Debbie neu Nicole neu anfonwch e-bost at debbie.jackson@wrexham.gov.uk neu nicole.mitchell-meredith@wrexham.gov.uk
Y llefydd sydd eisoes wedi cytuno ydi Boots Dôl yr Eryrod, The Entertainer, Marin Reese Jewellers, Starbucks Dôl yr Eryrod, The Lemon Tree, Yellow Cars Taxi Travel and Sweets, Contact Wrexham, Avow, Dewis CIL, Llyfrgell Wrecsam , Llyfrgell Rhos, Llyfrgell Rhiwabon, Llyfrgell Coedpoeth, Llyfrgell Brynteg, Llyfrgell Rhos, Llyfrgell Cefn Mawr, Canolfan Adnoddau Parc Llai, Canolfan Adnoddau Gwersyllt, Canolfan Cunliffe, Greenacres CBSW, Llyfrgell y Waun.
Problem gyda cheudwll? Dwedwch wrthym ni yn hawdd ac yn gyflym ar-lein.
DWEDWCH WRTHYM AM GEUDWLL