Mae gan lyfrgell Wrecsam ddewis gwych o ganllawiau teithio a llyfrau ymadroddion i fynd gyda chi ar eich gwyliau.

Felly, os nad ydych yn gallu penderfynu lle i fynd ar eich gwyliau nesaf neu os ydych eisoes wedi bwcio eich gwyliau ac yn awyddus i ddysgu am eich cyrchfan, neu os hoffech ddianc i rywle cynhesach a mwy disglair trwy bori mewn canllaw teithio, yna ewch i Lyfrgell Wrecsam i gael ychydig o ysbrydoliaeth!

PROBLEM GYDA CHEUDWLL? DWEDWCH WRTHYM NI AR-LEIN.

Yn cael trafferth cael lle yn eich cês? Peidiwch â phoeni, gallwch lawrlwytho e-lyfrau ac e-lyfrau llafar i’ch dyfais symudol neu dabled cyn gadael!

Os nad ydych erioed wedi benthyca e-lyfr neu e-lyfr llafar am ddim o’ch llyfrgell, rydych wedi bod yn methu allan! Gwnewch yn siŵr eich bod â’ch cerdyn llyfrgell yn barod a lawrlwythwch yr ap nawr. Byddwch hefyd angen eich rhif pin llyfrgell, os nad ydych efo rhif yn barod, ewch draw i’ch llyfrgell leol gyda phrawf o’ch cyfeiriad.

Problem gyda cheudwll? Dwedwch wrthym ni yn hawdd ac yn gyflym ar-lein.

DWEDWCH WRTHYM AM GEUDWLL