Mae Cyngor Wrecsam yn gwario eich arian ar ddarparu gwasanaethau i chi.
Mae’n bwysig iawn ein bod yn rheoli eich arian yn dda ac yn gyfrifol a’n bod yn rhedeg pethau’n iawn.
Yr hyn sydd i’w drafod ar 30 Mai
Bydd y Pwyllgor Archwilio yn cwrdd ddydd Iau, 30 Mai i edrych ar y cyfrifon blynyddol a’r hyn mae ein harchwilwyr yn dweud ynglŷn â sut hwyl rydym yn ei gael ar bethau.
Jerry O’Keeffe yw cadeirydd y pwyllgor. Nid yw’n gynghorydd nac yn weithiwr, ond yn hytrach yn aelod annibynnol o’r cyhoedd.
Dywed: “Mae cyngor yn gorff cymhleth sy’n darparu gwasanaethau sy’n effeithio arnom oll ac yr ydym yn dibynnu arnynt.
“Mae’n hanfodol fod pobl yn gwybod fod y cyngor yn gwario eu harian yn gywir a’i fod yn gweithredu ei fusnes yn gywir ac yn ôl y gyfraith.”
Ychwanegodd Mr O’Keeffe: “Mae hyn yn arbennig o bwysig ar hyn o bryd, gyda chyllid yn brin ond fod pobl yn dal i ddisgwyl cael gwasanaethau o safon.”
ALLECH CHI WNEUD GWAHANIAETH I FYWYD PLENTYN SYDD MEWN GOFAL?
Dewch i’r cyfarfod
Mae’r cyfarfodydd hyn yn agored i’r cyhoedd, felly beth am fynd draw os gewch chi gyfle?
Dywed Mr O’Keeffe: “Mae’r Pwyllgor yn archwilio materion difrifol, ond nid yw’r cyfarfodydd yn frawychus nac yn orffurfiol. Rydym yn croesawu aelodau’r cyhoedd i fod yn bresennol.”
Oes gennych chi ddiddordeb? Cynhelir y cyfarfod heddiw, sef dydd Iau, 30 Mai, yn Neuadd y Dref, Wrecsam. Bydd yn dechrau am 4pm.
Tarwch olwg ar y rhaglen ar wefan y cyngor.
DYSGWCH FWY AM FABWYSIADU