Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Lleihau ein dibyniaeth ar Danwyddau Ffosil
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Mae Tattoo Cymru yn dychwelyd i Wrecsam fis Hydref
Mae Tattoo Cymru yn dychwelyd i Wrecsam fis Hydref
Digwyddiadau Pobl a lle
foster wales
Panel maethu Wrecsam – ai chi yw hwn?
Pobl a lle Y cyngor
R- L: Former Mayor Cllr Beryl Blackmore; Heather Collin chair of Dementia Friendly Wrexham; former Mayor's Consort Dorothy Lloyd; and Michael Locke Wales fundraising manager Bowel Cancer UK
Cyn-Faer yn rhoi ei sieciau i elusennau lleol
Pobl a lle
The Council Chamber at the Guildhall in Wrexham
Y Cyngor yn ystyried cynllun ymgynghori ar gyfer tair ysgol gynradd
Y cyngor
Ty Pawb
Tŷ Pawb yn derbyn grant Cyngor Celfyddydau Cymru o Gronfa Buddsoddi Cyfalaf Llywodraeth Cymru o £8m
Pobl a lle Y cyngor
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Lleihau ein dibyniaeth ar Danwyddau Ffosil
Pobl a lleY cyngor

Lleihau ein dibyniaeth ar Danwyddau Ffosil

Diweddarwyd diwethaf: 2019/07/11 at 11:34 AM
Rhannu
Darllen 4 funud
Lleihau ein dibyniaeth ar Danwyddau Ffosil
OLYMPUS DIGITAL CAMERA
RHANNU

Gofynnwyd cwestiwn cyhoeddus i ni’n ddiweddar yn ein Bwrdd Gweithredol, a meddwl oedden ni y dylen ni rannu’r cwestiwn a’r ateb gyda’n darllenydd i roi’r diweddaraf i chi ar hyn yr ydym yn ei wneud.

Cynnwys
Cwestiwn:“Ateb”Beth ydym ni wedi ei wneud?

Cwestiwn:

“Pryd fydd Cyngor Wrecsam yn gwaredu tanwydd ffosil, a beth sydd wedi ei wneud hyd yma, yn ymwneud yn benodol â’r cwestiwn hwn?”

CYMRWCH RAN YN YR YMGYNGHORIAD AR GYNLLUN Y CYNGOR 20-22

“Ateb”

Ymatebodd y Cyng. David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:

“Ymateb i Gwestiwn Cyhoeddus i’w ofyn i’r Bwrdd Gweithredol ym mis Gorffennaf. Mae lleihau carbon a’r ymdrech i leihau ein dibyniaeth ar danwydd ffosil wedi bod yn ganolbwynt i Gyngor Wrecsam ers amser maith. Dros y 10 mlynedd ddiwethaf, drwy gaffael ynni, rydym hefyd yn falch o gyhoeddi bod 100% o’n cyflenwad trydan yn dod o ffynonellau adnewyddadwy, ac felly yn sicrhau bod yr holl drydan a ddefnyddir yn ein hadeiladau a goleuadau stryd yn drydan gwyrdd. Yn ei dro, mae hyn yn dargyfeirio o’r defnydd traddodiadol o danwydd ffosil.

Yn ystod y 10 mlynedd ddiwethaf, mae’r Cyngor wedi arwain amrywiaeth o brosiectau arbed ynni ac wedi croesawu technolegau newydd ac arloesol i leihau’r awdurdodau sy’n dibynnu ar danwyddau ffosil.

Beth ydym ni wedi ei wneud?

– Gosod 2,675 o baneli solar ar dai cyngor.
– Dylunio, gosod a chynnal y fferm solar 2.64 MW cyntaf yng Nghymru sy’n eiddo i’r Cyngor
– Paneli solar ar 2 swyddfa’r cyngor ac 17 o ysgolion.
– Gosod boeler biomas mawr yn un o’n swyddfeydd mawr
– Diweddaru’r goleuadau mewnol mewn dros 30 o ysgolion a swyddfeydd.
– Pwyntiau gwefru cerbydau trydan mewn 5 maes parcio cyhoeddus a phwynt gwefru yn mewn dau faes parcio gweithle, gan gynnwys ychwanegu 5 cerbyd pŵl trydan at fflyd y Cyngor
– Y Cyngor yn parhau i groesawu technoleg ddigidol
– Y Cyngor wedi sefydlu grŵp prosiect i leihau bagiau plastig un defnydd ar draws yr holl adeiladau ac ysgolion

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, drwy ddatblygu technolegau Deuodau Allyrru Golau, mae’r Cyngor wedi buddsoddi mewn unedau goleuo newydd ar draws y Fwrdeistref Sirol. Mae’r rhaglen waith hon yn parhau, a dros y ddwy flynedd nesaf bydd gweddill goleuadau stryd y Cyngor yn cael eu newid, 11,000 o unedau i gyd.

Rydym yn ymwybodol o’r Argyfwng Hinsawdd yng Nghymru a ddatganwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru, sydd wedi amlygu cynlluniau uchelgeisiol i fod yn niwtral o ran carbon erbyn 2030. Gan edrych i’r dyfodol, yn dilyn penderfyniad yn ein cyfarfod Cyngor ym mis Mehefin, mae’n bleser gen i gadarnhau y gwnaethom gymeradwyo’r gwaith o ddatblygu Cynllun Gweithredu Datgarboneiddio, o fewn 12 mis, sy’n dogfennu ein gwaith a’n gweithredoedd ac yn cefnogi Ymrwymiad Llywodraeth Cymru ar Newid Hinsawdd.”

I gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ar Gynllun y Cyngor, cliciwch yma

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.yourvoicewrexham.net/project/417?language=cy”]DWI ISIO MYNEGI FY MARN![/button]

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” link=”https://newyddion.wrecsam.gov.uk”]DOES DIM OTS GEN [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Newyddion da i Ysgol Morgan Llwyd Newyddion da i Ysgol Morgan Llwyd
Erthygl nesaf Batris botwm yn berygl o farwolaeth posib i blant Batris botwm yn berygl o farwolaeth posib i blant

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mae Tattoo Cymru yn dychwelyd i Wrecsam fis Hydref
Mae Tattoo Cymru yn dychwelyd i Wrecsam fis Hydref
Digwyddiadau Pobl a lle Medi 15, 2025
foster wales
Panel maethu Wrecsam – ai chi yw hwn?
Pobl a lle Y cyngor Medi 15, 2025
R- L: Former Mayor Cllr Beryl Blackmore; Heather Collin chair of Dementia Friendly Wrexham; former Mayor's Consort Dorothy Lloyd; and Michael Locke Wales fundraising manager Bowel Cancer UK
Cyn-Faer yn rhoi ei sieciau i elusennau lleol
Pobl a lle Medi 12, 2025
The Council Chamber at the Guildhall in Wrexham
Y Cyngor yn ystyried cynllun ymgynghori ar gyfer tair ysgol gynradd
Y cyngor Medi 11, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Mae Tattoo Cymru yn dychwelyd i Wrecsam fis Hydref
DigwyddiadauPobl a lle

Mae Tattoo Cymru yn dychwelyd i Wrecsam fis Hydref

Medi 15, 2025
foster wales
Pobl a lleY cyngor

Panel maethu Wrecsam – ai chi yw hwn?

Medi 15, 2025
R- L: Former Mayor Cllr Beryl Blackmore; Heather Collin chair of Dementia Friendly Wrexham; former Mayor's Consort Dorothy Lloyd; and Michael Locke Wales fundraising manager Bowel Cancer UK
Pobl a lle

Cyn-Faer yn rhoi ei sieciau i elusennau lleol

Medi 12, 2025
The Council Chamber at the Guildhall in Wrexham
Y cyngor

Y Cyngor yn ystyried cynllun ymgynghori ar gyfer tair ysgol gynradd

Medi 11, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English