O 30 Hydref, 2023 ymlaen bydd Cyngor Wrecsam yn rhoi croeso cynnes ym mhob un o’n llyfrgelloedd cyhoeddus ymysg yr argyfwng costau byw parhaus.
Mae nifer o breswylwyr yn pryderu am wresogi eu cartrefi yn ystod y misoedd oerach, mae’r cyngor yn defnyddio mannau cynnes cyfredol lle gall bobl gael croeso a chynhesu gyda phaned o de neu goffi.
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol Tai a Chadeirydd y gweithgor costau byw: “Mae’r argyfwng costau byw yn achosi poen meddwl i lawer o bobl o ran cadw’n gynnes yn eu cartrefi ac mae pethau yn mynd i waethygu wrth i ni ddynesu at y gaeaf.
Mae costau ynni cynyddol yn rhoi straen go iawn ar deuluoedd, felly mae cael lleoedd cymunedol cynnes yn Wrecsam yn rhywbeth i helpu yn ystod cyfnod heriol iawn.
Dyma restr o lyfrgelloedd cyhoeddus sydd yn cynnig croeso cynnes a diod gynnes:
• Llyfrgell Brynteg
• Llyfrgell Cefn Mawr
• Llyfrgell y Waun
• Llyfrgell Coedpoeth
• Llyfrgell Gwersyllt
• Llyfrgell Llai
• Llyfrgell Owrtyn
• Llyfrgell Rhos
• Llyfrgell Rhiwabon
• Llyfrgell Wrecsam
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.