Mae’r pandemig Covid-19 wedi cael effaith sylweddol ar fywydau pawb – nid yn unig y rheiny sy’n ddiamddiffyn, ac wedi dioddef caledi ariannol ac emosiynol.
Mae nifer o unigolion a theuluoedd nad oedd arnynt angen ein cefnogaeth cyn y pandemig bellach angen cymorth ar frys gan y cyngor a’i bartneriaid.
O ganlyniad, rydym wedi ymateb i anghenion pobl leol ac wedi caffael 19 uned llety â chymorth ar ffurf llety gwely a brecwast sefydledig o fewn canol y dref, yn 36 Ffordd Caer, Wrecsam.
Bydd y cyfleuster hwn yn darparu llety a gwasanaethau ‘gofal estynedig’ i helpu pobl i godi ar eu traed drachefn.
Diogelu’r bobl yr ydych yn eu caru, lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG.
Bydd tîm ar y safle yn cefnogi’r cyfleuster, a bydd y cyfleuster yn rhan o bortffolio llety ehangach.
Er bod y pandemig wedi achosi caledi i nifer o bobl, mae hefyd wedi profi y gall cymunedau ddod at ei gilydd i gynnig cefnogaeth i’w gilydd yn ystod cyfnodau anodd.
Mae darparu’r llety a’r gefnogaeth hon i bobl sydd wirioneddol angen cymorth yn enghraifft arall o sut mae Wrecsam yn gweithio gyda’i gilydd i oroesi’r cyfnod anodd hwn.
Lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG ….a helpwch i gadw Wrecsam yn ddiogel yr hydref yma.
Lawrlwythwch yr ap GIG