Mewn cydweithrediad â Menter Iaith Fflint a Wrecsam, mae Cyngor Wrecsam wedi trefnu gorymdaith Dydd Gŵyl Dewi, a fydd yn digwydd ar ddydd Gwener 1 Mawrth.
Bydd yr orymdaith yn ymgynnull y tu allan i Neuadd y Dref am 12.45 ac yn cychwyn yn brydlon am 1pm dan arweiniad Band Cambria.
Bydd yr orymdaith wedyn yn gwneud ei ffordd i Sgwâr y Frenhines, Stryt yr Arglwydd, Stryd Egerton, Stryt y Rhaglaw, Stryd Gobaith, y Stryd Fawr a Stryt Caer; ac eleni, bydd yr orymdaith yn dod i ben yn Nhŷ Pawb, ble y bydd digonedd o hwyl i’r teulu cyfan!
EISIAU MWY O AWGRYMIADAU A GWYBODAETH? COFRESTRWCH I DDERBYN EIN CYLCHLYTHYRAU AILGYLCHU AR E-BOST…
O 10am yn Nhŷ Pawb, bydd stondinau Cynnyrch Cymreig, crefftau plant, adloniant byw a sinema atgofion yn dangos ffilmiau Superted a Wil Cwac Cwac.
Meddai Gill Stephen, Prif Swyddog Menter Iaith Fflint a Wrecsam: “Mae croeso cynnes i bawb o bob oed ymuno yn yr hwyl eto eleni, boed yn siaradwyr Cymraeg ai peidio. Mae’r digwyddiad hynod boblogaidd hwn yn gyfle i bawb yn Wrecsam ddathlu hunaniaeth Gymreig y dref.”
Dywedodd y Cynghorydd Andy Williams, Maer Wrecsam; “Mae’r orymdaith flynyddol ar ddydd Gŵyl Dewi wedi profi yn ddigwyddiad poblogaidd iawn yng nghanol Wrecsam, ac nid ydym yn disgwyl i’r dathliadau eleni fod yn eithriad.
“Hoffwn ddiolch i Fenter Iaith Fflint a Wrecsam a swyddogion yng Nghyngor Wrecsam am y gwaith y maent wedi ei roi i fewn i’r digwyddiad hwn, ac estyn croeso cynnes i unrhyw un sy’n cymuno cymryd rhan.”
Mae’r dathliadau hyn yn rhan o sawl digwyddiad amrywiol sy’n cael ei gynnal ar hyd a lled Cymru i ddathlu ein nawddsant, felly cofiwch ddefnyddio’r hashnod #DewiWrecsam ar y cyfryngau cymdeithasol i rannu lluniau ac i ddilyn y digwyddiad drwy gydol y dydd.
Eisiau mwy o awgrymiadau a gwybodaeth? Cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyrau ailgylchu ar e-bost…
COFRESTRU