Heno cyhoeddwyd yn fyw ar sioe BBC ‘The One Show’ fod Bradford wedi ennill teitl Dinas Diwylliant y DU 2025
Yn gyntaf hoffwn longyfarch Bradford am ennill y teitl, da ni’n gwybod cymaint o waith mae’n cymryd i’r cais a da ni’n siŵr y bydd Bradford am wneud llwyddiant mawr o fod yn Ddinas Diwylliant y DU. Da ni’n edrych ymlaen at ymweld yn 2025.
Fel sir a chymuned mae’r gystadleuaeth hon wedi dod a ni yn agosach at ein gilydd ac wedi helpu i ni werthfawrogi pa mor arbennig ‘di Wrecsam. Mae gennym oll cefndiroedd a straeon gwahanol, ond wrth i ni gyfuno’r smotiau, da ni’n gymuned gref, gefnogol ac yn wydn sy’n edrych ar ôl ein gilydd.
Mae’r gwaith a’r llwyddiannau tros y misoedd diwethaf wedi rhoi ni ar lwybr gwahanol a da ni’n bwriadu i adeiladu ar hyn dros y blynyddoedd nesaf, a chreu cymunedau mwy llwyddiannus a chreu cyfleoedd yn y broses.
- Mae’r gwaith a fu’n digwydd yn cynnwys:
– Cyflwyno rhaglen o ddigwyddiadau sylweddol yn 2023 ac 2025
– Hysbysebu’r diweddaraf am sut y bydd hyn yn edrych erbyn Gorffennaf 2022
-Defnyddio’r momentwm da ni wedi adeiladu i gymryd y sir ymlaen
-Datblygu byw’r rôl bwysig y mae dylanwad chwarae yn cael ar Wrecsam
Dywedodd Joanna Swash, Prif Weithredwr Moneypenny a Chadeirydd Grŵp Llywio cais Dinas Diwylliant: “Da ni wedi cyflawni cymaint mewn amser byr ac wedi gweld llif o gefnogaeth gan ein cymuned a busnesau mewn cefnogaeth o’r cais. “Da ni di dangos cymaint o ynni a photensial sydd gan Wrecsam I gynnig a hefyd bod gennym blatfform cryf i adeiladu arno mewn termau diwylliant, sgiliau ac arloesi yn y sir.”
Dywedodd Cyng Mark Pritchard, arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam:
“Mae wedi bod yn wych i weld cymaint o’n llwyddiannau, ymrwymiad cymunedol a chefnogaeth i’r cais, ond am rŵan da ni ddim yn mynd ymhellach yn y gystadleuaeth a hoffwn anfon dymuniadau gorau i Bradford a dymuno lwc yn ei flwyddyn fel Dinas Diwylliant y DU yn 2025. “Da ni erbyn rŵan wedi llwyddo yn ein cais i ddod yn ddinas a da ni’n edrych ymlaen at y lles y gall hyn gyflawni.”
Dywedodd Cyng. Hugh Jones, cadeirydd grŵp llywio cais Dinas Diwylliant CBSW:
“Fel yr unig ranbarth o Gymru ar y rhestr fer o Gymru da ni wedi hedfan y faner i’n wlad a Wrecsam. Mae llwyddo i gael ar y rhestr fer wedi galluogi ni i godi proffil Wrecsam, ond mae hefyd wedi dechrau momentwm a rhoi platfform i ni adeiladu arno yn y dyfodol.
Dywedodd Ian Bancroft, Prif Weithredwr Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam: “Da ni’n barod gyda dealltwriaeth llawer well o beth yw Diwylliant Wrecsam, a beth mae Diwylliant yn golygu i Wrecsam. Mae Diwylliant yn chwarae rhan mewn bywydau pobl yn ddyddiol ac yn cael y capasiti i wella’n awyrgylch a’n lles. Mae’n rhaid i ni wneud yn siŵr i beidio â cholli’r gwersi a’r cysylltiadau sydd wedi cael ei datblygu wrth i ni gymryd rhan yn y gystadleuaeth hon ac arwain at ddyfodol lle mae diwylliant yn chwarae rôl allweddol yn ein proses o gynllunio a gwneud penderfyniadau a fydd o les i’r sir.
Beth sy’n digwydd nesa?
Er ein bod wedi colli allan ar ddod yn Ddinas Diwylliant y DU 2025, mae dal yna cymaint i edrych ymlaen at.
- da ni’n bwriadu cael ‘blwyddyn o ddiwylliant’ yn 2023 ac 2025 a fyddwn yn hysbysebu sut fydd hwn yn edrych erbyn Gorffennaf 2022
- Mae £15 miliwn wedi cael ei darparu ar gyfer datblygu’r ardal treftadaeth y byd Pontcysyllte
- Ailwampio marchnad y cigydd a marchnad gyffredinol
- Mwy o ddatblygiadau o’r prosiect porth
- Datblygiad o’r Amgueddfa Pêl Droed Cymru I fod i gwblhau yn 2025
- Gweithio gyda Chlwb Pêl Droed Wrecsam I ddatblygu’r Cae Ras