Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Sut oedd y profiad i chi?
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Sut oedd y profiad i chi?
ArallPobl a lle

Sut oedd y profiad i chi?

Diweddarwyd diwethaf: Mehefin 1, 2022 4:39 pm
Rhannu
Darllen 7 funud
Scarlett
RHANNU

Mae yna ychydig o wythnosau ers yr etholiadau lleol ond efallai y cofiwch Scarlet a Katie oedd yn pleidleisio am y tro cyntaf.

Nawr, maent wedi gallu bwrw eu pleidlais, rydym yn cael clywed sut deimlad oedd rhoi’r groes yn y blwch o’r diwedd!

CBSW: “Helo chi’ch dwy, rydych bellach yn bleidleiswyr! Sut deimlad oedd bwrw eich pleidlais am y tro cyntaf yn yr etholiadau lleol hyn?”

Katie “Roedd yn teimlo’n anhygoel gallu pleidleisio am y tro cyntaf o’r diwedd. Fel rhywun sydd wedi bod yn weithredwr ac ymgyrchydd awyddus ac wedi cymryd diddordeb mewn gwleidyddiaeth ers yn 11 oed, rwyf wedi bod yn aros i fod yn gymwys i bleidleisio ers tro ac roedd yn deimlad braf iawn gallu cael dweud pwy fyddai fy nghynghorydd lleol!”

Scarlett “Roedd yn deimlad grymusol iawn, tra’n deimlad braidd yn frawychus ar y dechrau, roeddwn yn sylweddoli nad oedd gennyf unrhyw beth i boeni amdano. Roedd hefyd yn anhygoel i weld cymaint o bobl ifanc yn yr orsaf bleidleisio; roedd yn ychwanegu at yr awyrgylch o obaith yn ogystal â gweithredu.”

CBSW: “Roedd nifer o’r wardiau yn Wrecsam yn agos iawn – gydag ond ychydig bleidleisiau rhwng ymgeiswyr – beth ydych chi’n feddwl mae hyn yn ei ddweud am bwysigrwydd pleidleisio?”

Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.

Scarlett “Mae’n dangos bod pob pleidlais yn cyfrif go iawn. Gall ymddangos nad yw eich pleidlais unigol yn cael effaith, ond mae’r canlyniadau agos yn dangos ei fod yn bwysig!”

Katie “Byddwn yn ei ddweud unwaith a gwnaf ei ddweud eto: mae pleidleisiau pobl yn bwysig. Gallai llond llaw o bleidleisiau fod y gwahaniaeth rhwng pwy sy’n gwneud penderfyniadau drosom, pwy sy’n ein cynrychioli, pa bolisïau sy’n cael eu blaenoriaethu ac rwy’n wirioneddol gobeithio bod yr etholiad hwn wedi profi hyn i bobl.”

CBSW: “Oeddech chi’n gweld y broses bleidleisio yn hawdd?”

Katie “Roedd yn hawdd iawn yn fy marn i. Roeddwn yn gwybod dros beth oedd pob un o’r ymgeiswyr yn sefyll, ble’r oedd fy ngorsaf bleidleisio a’r holl staff yn yr orsaf bleidleisio mor garedig ac yn sicrhau fy mod yn gwybod yn iawn sut i fwrw fy mhleidlais.”

Scarlett: “Roedd y broses yn syml iawn i’w dilyn, ymlaciol ac yn gyflym. Roedd popeth yn yr orsaf bleidleisio wedi eu gosod allan yn hawdd ac roedd staff yn fodlon iawn i helpu; roeddent yn gwybod mai hwn oedd fy nhro cyntaf ac yn fy arwain drwy’r broses.”

CBSW: “Pa gyngor fyddech yn ei roi i bleidleisiwr am y tro cyntaf ar ddiwrnod pleidleisio?”

Scarlett: “Rwy’n meddwl mai fy unig gyngor yw peidio oedi cyn pleidleisio! Mae wirioneddol yn brofiad gwych pan ydych yn pleidleisio ac yn teimlo fel eich bod yn gwneud gwahaniaeth. Mae pleidleisio yn rhywbeth y byddwn yn bendant yn ei annog, yn arbennig gan ei bod yn broses mor syml. Yn ogystal â hynny, os oes gennych unrhyw gwestiynau, gallwch ofyn i ffrindiau, teulu neu’r sawl yn yr orsaf bleidleisio – mae yna bob amser bobl sy’n fodlon ac yn awyddus i helpu.”

Katie: “byddwn yn dweud wrth unrhyw un sy’n pleidleisio am y tro cyntaf ar ddiwrnod pleidleisio i ddilyn eich greddf a gwybod dros beth mae eich ymgeiswyr yn sefyll a beth fyddant yn ei wneud i’ch cynrychioli chi. Nid yw’n gwneud gwahaniaeth a yw eich ffrindiau neu rieni yn pleidleisio, yr hyn sy’n bwysig yw pwy ydych chi eisiau pleidleisio drosto felly gwnewch hynny. Hefyd, gwnewch yn siŵr eich bod yn ymwybodol pa etholiad yw hwn – mae gan gynghorydd lleol rymoedd gwahanol i Aelod o’r Senedd neu Aelod Seneddol, felly gwnewch yn siŵr eich bod wedi cael golwg ar beth mae pob ymgeisydd wedi’i gynllunio o fewn eu pwerau ac nid beth sydd y tu hwnt iddynt.”

CBSW: “Ac yn olaf, sut deimlad oedd aros i’r canlyniadau ddod i mewn?”

Scarlett: “Roeddwn yn gyffrous iawn! Roeddwn yn awyddus i weld y canlyniadau a gweld a oedd yr ymgeisydd oeddwn wedi’i ddewis wedi bod yn llwyddiannus. Mae’r broses bleidleisio i gyd wedi gwneud imi ymwneud mwy â gwleidyddiaeth i lefel nad oeddwn erioed wedi’i brofi o’r blaen. Rwy’n meddwl ei fod oherwydd fy mod yn teimlo fy mod yn rhan bwysig o rywbeth mwy; rhywbeth fyddai’n gwneud gwahaniaeth i’r gymuned.”

Katie “Mae gennyf deimlad rhyfedd o orbryder ac adrenalin wrth i’r canlyniadau ddod i mewn. Rwy’n fyfyriwr gwleidyddiaeth felly rwyf wrth fy modd yn gwylio’r pleidleisiau yn dod i mewn o amgylch y wlad ac wedi gwneud hynny ers nifer o flynyddoedd bellach. I mi, nid yw gwylio’r canlyniadau yn ymwneud â pha un a yw’r sawl rwyf wedi pleidleisio drostynt wedi ennill neu golli, ond am ganfod pwy sy’n fy nghynrychioli a phwy fydd yn gwneud y penderfyniadau i mi ac amdanaf i; mae’n rôl bwysig iawn ac mae mor gyffrous darllen y canlyniadau.”

Bydd pobl ifanc yng Nghymru, 16+ oed yn gallu pleidleisio yn etholiadau’r Senedd yn 2026 ac maent yn gallu cofrestru i bleidleisio o 14 oed. Gallwch ymweld â thudalen cofrestru i bleidleisio GOV.UK i wybod mwy ac i gofrestru.

*Mae pleidleisio yn yr Etholiad Cyffredinol yn 2024 yn agored i bleidleiswyr 18 oed a drosodd*

Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_5″]TANYSGRIFWYCH[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Llongyfarchiadau i Bradford am ddod yn Ddinas Diwylliant y DU 2025 Llongyfarchiadau i Bradford am ddod yn Ddinas Diwylliant y DU 2025
Erthygl nesaf Library News Newyddion Llyfrgelloedd: Darllen am hwyl

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

glyndwr
Oeddech chi’n gwybod am Fforwm Landlordiaid 2026 yn Wrecsam?
Digwyddiadau
Medi 14, 2026
Mayor with Nightingale House Hospice team
Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam
Arall Fideo Pobl a lle
Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 9, 2026
Guildhall
Datganiad gan Gyngor Wrecsam: Dyfarniad uchel lys wedi’i sicrhau dros ddatblygiad anawdurdodedig yng Nghoed-poeth
Y cyngor
Medi 8, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Mayor with the Registrar team
ArallPobl a lleY cyngor

Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu

Medi 4, 2026
Football park and ride
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Wrecsam v Burnley – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm

Medi 4, 2026
Penley Hospital
ArallPobl a lle

Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna

Medi 3, 2026
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English