Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Llongyfarchiadau i’r clwb bowls ar ennill gwobr anabledd
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Llongyfarchiadau i’r clwb bowls ar ennill gwobr anabledd
Pobl a lle

Llongyfarchiadau i’r clwb bowls ar ennill gwobr anabledd

Diweddarwyd diwethaf: Tachwedd 30, 2018 11:55 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Llongyfarchiadau i’r clwb bowls ar ennill gwobr anabledd
RHANNU

Mae’n bwysig cael pobl i gymryd rhan mewn chwaraeon – ac mae gwneud yn siŵr y gall pobl anabl gymryd rhan yn y campau maent yn dymuno hyd yn oed yn bwysicach.

Mae ymdrechion clwb bowls yn Wrecsam i helpu aelodau gyda nam ar y golwg, anableddau dysgu a rhai sy’n gwella ar ôl cael strôc wedi cael eu cydnabod yn ddiweddar gan gorff cenedlaethol, sy’n ceisio cynyddu cyfranogiad pobl anabl mewn chwaraeon, a helpu clybiau chwaraeon i ehangu eu cynhwysiant.

Derbyniodd Clwb Bowls Parc Bradle Ruban insport Chwaraeon Anabledd Cymru am eu hymrwymiad a’u hymroddiad i gynhwysiant a phobl anabl, ar ôl gweithio’n galed i gynnig sesiynau ar gyfer pobl gydag ystod o anableddau.

PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM DDIWEDDARIADAU WYTHNOSOL.

Mae clwb Spot the Jack yn cynnig sesiynau i bobl gydag anableddau dysgu, drwy addasu’r gamp i ddarparu ar gyfer amryw o anableddau corfforol a dysgu, lle gall chwaraewyr a gofalwyr gymryd rhan yn y gêm ar arwyneb cynhwysol a hygyrch.

Mae’r clwb hefyd yn cynnig sesiynau Touchwood i aelodau gyda namau ar y golwg, lle mae chwaraewyr yn cystadlu mewn gêm wedi ei haddasu’n arbennig gydag offer cynhwysol sy’n darparu ar gyfer gwahanol namau.

Ac mae’r clwb hefyd yn cynnig sesiynau i bobl sy’n gwella ar ôl cael strociau, ac yn gweithio’n uniongyrchol gyda’r Gymdeithas Strôc i gynnig y gefnogaeth sydd ei hangen.

Dywedodd Andrew Atkinson, Aelod Arweiniol Gwasanaethau Ieuenctid a Gwrth-dlodi, sydd â chyfrifoldeb dros Hamdden: “Mae Chwaraeon Anabledd yn cynnig modd ardderchog i bobl wneud ffrindiau newydd a chymdeithasu’n amlach, a gall hefyd gynnig cyfleoedd i adfer a chael therapi ar gyfer pobl gyda phroblemau iechyd cronig.

“Serch hynny, mae angen llawer o waith caled ar gyfer hyn ar ran y clybiau a grwpiau i sicrhau bod yr adnoddau a’r bobl gywir ar gael i gefnogi aelodau o’r fath.

“Mae Clwb Bowls Parc Bradle yn llwyr haeddu Rhuban insport Chwaraeon Anabledd Cymru am ei ymroddiad i’w holl aelodau, ac rwy’n llongyfarch pawb yn y clwb am eu hymdrechion.”

Dywedodd Terri Ritchie, swyddog Chwaraeon Anabledd Cymru: “Mae hi wedi bod yn bleser gweithio gyda chlwb sy’n buddsoddi yn y gymuned, ac wedi ymrwymo i gynhwysiant a thegwch yn Wrecsam.

“Da iawn Bowls Bradley!”

Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am wythnosol rŵan.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://fynghyfrif.wrecsam.gov.uk/cy/AchieveForms/?form_uri=sandbox-publish://AF-Process-ceb55423-9f5d-4124-b713-805ac7a73e3e/AF-Stage-854336b9-1221-4e6a-88d7-785fb2f8e340/definition.json&redirectlink=%2Fcy&cancelRedirectLink=%2Fcy&consentMessage=yes”]COFIWCH EICH BINIAU[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Acton Park View Scenery Bench 5 peth diddorol am Acton…
Erthygl nesaf Penwythnos Prysur ar y Gweill i Wrecsam! Penwythnos Prysur ar y Gweill i Wrecsam!

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with Nightingale House Hospice team
Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam
Arall Fideo Pobl a lle
Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 9, 2026
Guildhall
Datganiad gan Gyngor Wrecsam: Dyfarniad uchel lys wedi’i sicrhau dros ddatblygiad anawdurdodedig yng Nghoed-poeth
Y cyngor
Medi 8, 2026
Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Football park and ride
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Wrecsam v Burnley – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm

Medi 4, 2026
Penley Hospital
ArallPobl a lle

Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna

Medi 3, 2026
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
DigwyddiadauPobl a lle

Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.

Medi 2, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English