Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen LLONGYFARCHIADAU! Tîm lleoedd diogel yn cwblhau hyfforddiant ymwybyddiaeth awtistiaeth
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > LLONGYFARCHIADAU! Tîm lleoedd diogel yn cwblhau hyfforddiant ymwybyddiaeth awtistiaeth
Pobl a lleY cyngor

LLONGYFARCHIADAU! Tîm lleoedd diogel yn cwblhau hyfforddiant ymwybyddiaeth awtistiaeth

Diweddarwyd diwethaf: Chwefror 6, 2020 11:33 am
Rhannu
Darllen 3 funud
autism awareness training
O'r chwith i'r dde: Peter, Linton, Nicolas, Karl, Annette, Lynn and Alec
RHANNU

Mae grŵp o bobl leol sy’n gweithio’n galed ac yn ymroddedig sy’n asesu busnesau yn Wrecsam i fod yn Lle Diogel    i gyd wedi derbyn eu tystysgrifau ymwybyddiaeth awtistiaeth ar ôl cwblhau a llwyddo mewn hyfforddiant ymwybyddiaeth awtistiaeth.

Mae’r tîm Lleoedd Mwy Diogel yn grŵp o unigolion sy’n cael mynediad i Ofal Cymdeithasol i Oedolion, maent yn cael eu galw’n grŵp SWS.   Mae’r grŵp yn gweithio ar draws Wrecsam i asesu busnesau a gwasanaethau, i fod yn le diogel i unigolion diamddiffyn sydd ei angen, fel rhywun gydag Awtistiaeth.

COFRESTRWCH I DDERBYN HYSBYSIADAU GWEITHGARWCH GRAEANU

Mae’r hyfforddiant yn dangos sut mae gwneud newidiadau bach yn gallu lleihau’r gorbryder i unigolion sy’n byw gydag awtistiaeth a’u helpu i deimlo’n fwy cynhwysol yn eu cymuned.  Mae’r hyfforddiant awtistiaeth, a ddatblygwyd gan y Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig, yn cefnogi Cod Ymarfer newydd Awtistiaeth.

Ers cwblhau eu hyfforddiant Ymwybyddiaeth Awtistiaeth yn ddiweddar, byddant nawr yn gallu rhoi cymorth a chyngor i fusnesau lleol am fod yn awtistiaeth gyfeillgar yn ogystal ag annog y busnesau i gwblhau’r hyfforddiant eu hunain.  Mae’r hyfforddiant wedi helpu’r tîm i fod yn fwy ymwybodol o bobl sy’n byw gydag awtistiaeth.  Mae hefyd yn golygu eu bod nawr yn barod gyda’r wybodaeth i gefnogi busnesau lleol i wneud newidiadau i alluogi pobl gydag awtistiaeth i deimlo eu bod yn rhan o’u cymunedau eu hunain.   Gall newidiadau bach wneud gwahaniaeth mawr a gall helpu i leihau’r gorbryder i unigolion gydag awtistiaeth a’u helpu i gael profiad cadarnhaol wrth ymweld â busnesau a gwasanaethau.

Mae’r grŵp yn angerddol am helpu pobl eraill ac wedi bod yn gweithio’n galed i helpu i wneud Wrecsam yn lle mwy diogel i bobl diamddiffyn.

Dywedodd y Cyng. Joan Lowe, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Oedolion, “Mae’r hyfforddiant ymwybyddiaeth awtistiaeth yn adnodd am ddim gwych sydd ar gael i unrhyw fusnes neu sefydliad yn Wrecsam.   Mae’n wych bod y tîm Lleoedd Diogel eisoes wedi cwblhau’r hyfforddiant a gallant bellach roi eu gwybodaeth ar waith wrth ymweld â safleoedd.

Da iawn pob aelod o’r grŵp am dderbyn eu tystysgrifau.   Gobeithio y byddwch yn ysbrydoli llawer o bobl eraill i gwblhau’r hyfforddiant hefyd.”

Os hoffech fwy o wybodaeth ynglŷn â sut y gallwch chi neu eich busnes gael budd o hyfforddiant ymwybyddiaeth awtistiaeth, gallwch gysylltu â Thîm Comisiynu Gwasanaethau Cymdeithasol Wrecsam – Commissioning@wrexham.gov.uk

Derbyniwch y wybodaeth ddiweddaraf o ran graeanu yn syth i’ch mewnflwch

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new”] COFRESTRWCH FI RŴAN [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol War Rhybudd – Gwerthwyr pysgod yn gweithredu yn ardal Talwrn Green, Wrecsam
Erthygl nesaf D Myfyrwyr Darland yn dathlu llwyddiant cynnar mewn Mathemateg

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mae gennym lu o swyddi gwag newydd i chi eu chwilio...
Mae gennym lu o swyddi gwag newydd i chi eu chwilio…
Busnes ac addysg
Hydref 9, 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Y cyngor
Hydref 9, 2026
Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam
Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam
Y cyngor Digwyddiadau
Hydref 9, 2026
The People’s Emergency Briefing next screening is at
Ydych chi wedi gwylio The People’s Emergency Briefing? Archebwch eich tocynnau ar gyfer y dangosiad nesaf (17 Hydref)
Digwyddiadau Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 9, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyngor Wrecsam yn croesawu cyllid ar gyfer cynllun adfer canol y ddinas
Pobl a lle

Cyngor Wrecsam yn croesawu cyllid ar gyfer cynllun adfer canol y ddinas

Hydref 9, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Y cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam

Hydref 9, 2026
Her Gerdded Mis Hydref: Enillwch eich cyfran o 380,000 o bwyntiau BetterPoints 
Pobl a lleDatgarboneiddio Wrecsam

Her Gerdded Mis Hydref: Enillwch eich cyfran o 380,000 o bwyntiau BetterPoints 

Hydref 9, 2026
Sam Gardner
Pobl a lleDigwyddiadau

Athro ac awdur i roi sgwrs bwerus ar y system ofal

Hydref 8, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English