Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Rhybudd – Gwerthwyr pysgod yn gweithredu yn ardal Talwrn Green, Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Latest News
Councillor Nigel Williams visits The Uncommon Practice
Busnes arbennig o dda ;)
Busnes ac addysg
Hands
Ymgyrch John i’r rheini sy’n byw gyda Dementia
Y cyngor Fideo Pobl a lle
The Guildhall, Wrexham
Cyngor Wrecsam yn ystyried mwy o gynigion i arbed costau wrth i’r wasgfa ariannol aruthrol barhau
Y cyngor
Council Tax
Siapio dyfodol Treth y Cyngor yng Nghymru
Y cyngor Fideo Pobl a lle
20mph
Gallwch gael eich cosbi am ddifrodi neu symud arwyddion 20mya
Y cyngor Pobl a lle
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Rhybudd – Gwerthwyr pysgod yn gweithredu yn ardal Talwrn Green, Wrecsam
Arall

Rhybudd – Gwerthwyr pysgod yn gweithredu yn ardal Talwrn Green, Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: 2020/02/06 at 10:27 AM
Rhannu
Darllen 3 funud
War
RHANNU

Rhybudd gan Dîm Safonau Masnach Cyngor Wrecsam

Mae gwerthwyr pysgod sy’n masnachu o ddrws i ddrws, yn galw yn eich cartref heb rybudd, gan gynnig gwerthu pysgod ‘ffres’ am arian parod neu daliadau cerdyn yn gweithredu yn Wrecsam. Yn aml dydy’r pysgod hyn oddi ar y farchnad ddu ddim wedi eu pecynnu yn briodol, does dim nodyn arnynt yn dweud pa fath o bysgod ydynt, nac unrhyw ddyddiad, ac maent yn debygol o fod wedi eu cludo mewn cerbyd amhwrpasol, sy’n rhoi eich iechyd mewn peryg.

Tra bod llawer o werthwyr pysgod cyfreithiol yn masnachu yn ein cymunedau, yn anffodus nid yw’n anghyffredin derbyn ymweliad gan y masnachwyr troseddol hyn sy’n ceisio gwerthu nifer fawr o bysgod i chi am brisiau drud ofnadwy. Mae llawer ohonynt yn cynnig dod i’ch cartref i’w rhoi yn eich rhewgell, a byddant wedi gadael ymhell cyn i chi sylwi ar y cynnyrch anfwytadwy y byddant wedi eu gadael ar ôl.

PEIDIWCH Â GADAEL I DWYLLWYR EICH SGAMIO! COFRESTRWCH I GAEL CYNGOR A RHYBUDDION AR SGAMIAU YN EICH ARDAL CHI

Poenydio pobl hŷn a diamddiffyn

Fel y rhan fwyaf o bobl sy’n galw i’ch cartref heb rybudd, mae’r troseddwyr hyn yn poenydio pobl hŷn diamddiffyn a byddant yn rhoi pwysau arnoch i brynu pethau nad oes arnoch mo’u heisiau na’u hangen. Yn ogystal â gofyn am daliadau mewn arian parod, maent hefyd yn defnyddio peiriannau talu â cherdyn lle maent yn nodi symiau mawr ac wedyn yn sicrhau na all y prynwr weld faint sydd wedi ei godi arnynt. Ni roddir derbynneb, ac mae rhestrau prisiau neu wybodaeth fusnes gan gynnwys enwau neu rifau ffôn yn aml yn ffug.

Heb unrhyw fanylion i olrhain y twyllwyr hyn, unwaith byddant wedi mynd byddwch y cael eich gadael â chynnyrch na ddylid ei fwyta byth o safbwynt diogelwch.

Ein cyngor yw i chi beidio delio ag unrhyw un ar stepen eich drws.

Rhowch wybod am ddigwyddiadau i Safonau Masnach drwy Wasanaeth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 0808 223 113 neu’r gwasanaeth Cymraeg ar 0808 223 1144. Fel arall ffoniwch rif yr Heddlu ar 101.

Cadwch yn ddiogel rhag twyllwyr gyda’n rhybuddion!

Cofrestrwch i gael rhybuddion am sgamiau yma!

Rhannu
Erthygl flaenorol wales Siaradwr Cymraeg?
Erthygl nesaf autism awareness training LLONGYFARCHIADAU! Tîm lleoedd diogel yn cwblhau hyfforddiant ymwybyddiaeth awtistiaeth

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Councillor Nigel Williams visits The Uncommon Practice
Busnes arbennig o dda ;)
Busnes ac addysg Rhagfyr 7, 2023
Hands
Ymgyrch John i’r rheini sy’n byw gyda Dementia
Y cyngor Fideo Pobl a lle Rhagfyr 6, 2023
The Guildhall, Wrexham
Cyngor Wrecsam yn ystyried mwy o gynigion i arbed costau wrth i’r wasgfa ariannol aruthrol barhau
Y cyngor Rhagfyr 6, 2023
Council Tax
Siapio dyfodol Treth y Cyngor yng Nghymru
Y cyngor Fideo Pobl a lle Rhagfyr 6, 2023

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Victorian Market
Y cyngorArall

Marchnad Fictoraidd wedi’i lleihau oherwydd gwyntoedd cryf a ragwelir

Rhagfyr 6, 2023
Sgwrs Hinsawdd
Pobl a lleArall

Sesiwn galw heibio Sgwrs Hinsawdd -dywedwch eich dweud!

Rhagfyr 1, 2023
Dweud eich dweud ar gyllid plismona yng Ngogledd Cymru
Pobl a lleArall

Dweud eich dweud ar gyllid plismona yng Ngogledd Cymru

Tachwedd 30, 2023
Wrexham General station - Transport for Wales
Arall

Dweud eich dweud ar gynigion ar gyfer Hwb Trafnidiaeth Porth Wrecsam

Tachwedd 13, 2023
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Fy Niweddariadau
  • Hysbysiadau awtomatig
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English