Rydym wedi bod yn gweithio gyda Chyngor ar Bopeth Wrecsam (CAW) i ddiogelu y gwasanaethau gwerthfawr y maent yn eu darparu i’r cyhoedd.
Ac rydym yn falch o roi gwybod i chi ein bod wedi llunio cytundeb â nhw o ran lefel y cyllid sy’n ofynnol gan Gyngor Wrecsam ar gyfer blwyddyn ariannol 2019/20.
Dywedodd Robert Williams, Cadeirydd CAW: “Rwy’n croesawu’r ymgysylltiad gydag Arweinydd y Cyngor a chadarnhad o’r gefnogaeth ariannol y maent am ei ddarparu i’n cynorthwyo i ddarparu cyngor tai a dyledion o ansawdd da. A gobeithio y bydd hyn yn parhau.”
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Mark Prichard “Rwy’n falch ein bod yn gweithio mewn partneriaeth â CAW ac ein bod wedi cytuno ar lefel y gefnogaeth ariannol ar gyfer blwyddyn ariannol 2019/20 o £60,000. Rydym yn cydnabod a gwerthfawrogi holl waith caled ac ymdrech CAW i ddarparu eu gwasanaethau yma yn Wrecsam. Bydd y swyddogion yn cadarnhau’r cytundeb ysgrifenedig a’r trefniadau monitro yn awr a hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y mater.”
Dywedodd Gaynor Roberts, Prif Weithredwr CAW: “Mae’r sefydliad yn gwerthfawrogi’r gefnogaeth sy’n cael ei darparu gan yr Awdurdod Lleol. Fel y bydd pobl yn gwybod, bu’n rhaid i ni leihau ein gwasanaeth dros y 12 mis diwethaf o ganlyniad i faterion cyllid, bydd hyn yn ein galluogi i ailagor eto gan ddarparu 3 diwrnod o wasanaeth galw heibio gydag apwyntiadau cyffredinol dynodedig ar ddydd Mawrth”.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ysgol meithrin yn 2019 yw Chwefror 22
APPLY NOW [/button