Mae ymwelwyr â chanol dinas Wrecsam wedi bod yn sylwi ar lawer o feiciau sydd wedi eu haddurno i nodi’r ffaith ein bod yn ymgeisio yng nghystadleuaeth Prydain yn ei Blodau a ras Taith Merched Prydain a oedd yma yn gynharach yn y flwyddyn.
Rydym nawr wedi eu troi yn gystadleuaeth lwybr i’r rhai o dan 16 oed!
Dewch o hyd i gynifer o feiciau ag y gallwch
Y cyfan sy’n rhaid iddynt ei wneud yw casglu ffurflen gais o’r Ganolfan Wybodaeth i Ymwelwyr, dod o hyd i gynifer o feiciau ag y gallant, eu nodi ar y ffurflen gais ac yna ysgrifennu eu manylion ar y cefn a dychwelyd y ffurflen i’r Ganolfan Wybodaeth i Ymwelwyr.
Bydd enw pob cystadleuydd yn cael ei roi mewn het a bydd pum enillydd yn cael eu dewis ar hap a’u hysbysu ar 16 Medi.
A does dim rhaid i chi boeni os nad ydych yn dod o hyd i’r holl feiciau – cyn belled â’ch bod wedi nodi rhai ar y map bydd eich cais yn dal i fynd i mewn i’r het!
Mae’r gwobrau wedi eu rhoi’n garedig gan Tesco.
Y dyddiad cau ar gyfer cystadlu yw 9 Medi
Mae’r holl feiciau ar hyd y llwybr wedi eu rhoi’n garedig i ni gan Bŵer Pedal (a reolir gan Groundwork Cymru) ym Mharc Gwledig Dyfroedd Alun.
Dywedodd y Cynghorydd Nigel Williams, Aelod Arweiniol yr Economi, “Mae’r beiciau lliwgar wedi bod yn ffefryn mawr yng nghanol y ddinas drwy gydol yr haf ac mae eu troi yn llwybr ar gyfer pobl ifanc yn ddiweddglo da i’r hyn sydd wedi bod yn amser llwyddiannus a phrysur iawn yng nghanol y ddinas.
“Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i bawb fu’n ymwneud â’r llwybr beicio, Prydain yn ei Blodau a digwyddiadau Taith Merched Prydain 24.”
Efallai yr hoffech hefyd ddarllen Rhestr Ardderchog o Berfformwyr ar gyfer Noson Gomedi Mis Medi!
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch