Mae ein hadain Hawliau Tramwy Cyhoeddus wedi bod yn brysur yn trwsio llwybr sydd bellach yn cysylltu Parc Gwledig Erddig, Marchwiail a Llwybr Clywedog.
Mae’r llwybr 30 metr bellach yn cynnwys giatiau newydd sy’n hawdd eu defnyddio a phont droed 10 metr.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.
Roedd y llwybr wedi cael ei esgeuluso ers peth amser heb unrhyw lwybr gweladwy amlwg i’w ddilyn, ac yn dilyn trafodaethau gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, fe gytunwyd bod angen datrysiad hir dymor i fynd i’r afael â draeniau gwael.
Bu’n rhaid symud hen bibell a ddifrodwyd yn ystod Storm Ciara yn 2020 o Ffrwd Gyfelia cyn cychwyn ar y bont droed newydd.
Gyda’r gwaith wedi’i gwblhau, mae’r llwybr yn ffurfio rhan o lwybr cylchdaith sydd yn cysylltu’r cefn gwlad cyfagos gyda Pharc Gwledig Erddig, Marchwiail a Llwybr Clywedog.
Gobeithio y byddwch chi’n mwynhau’r hawl dramwy gyhoeddus sydd wedi’i wella a’r ardal hardd sydd yn ffurfio rhan o’r Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.
Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.
TANYSGRIFWYCH