Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Wythnos ar ôl i gofrestru i bleidleisio yn yr etholiadau
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Wythnos ar ôl i gofrestru i bleidleisio yn yr etholiadau
Y cyngor

Wythnos ar ôl i gofrestru i bleidleisio yn yr etholiadau

Diweddarwyd diwethaf: Ebrill 7, 2022 8:49 am
Rhannu
Darllen 3 funud
bleidleisio’n
RHANNU

Dim ond wythnos sydd ar ôl tan ddyddiad cau cofrestru i bleidleisio yn yr etholiadau lleol fis nesaf, felly dylai unrhyw un sydd eisiau pleidleisio ofalu eu bod nhw wedi cofrestru cyn hynny.

Y dyddiad cau i gofrestru i bleidleisio yw hanner nos ar 14 Ebrill. Gallwch wneud cais ar-lein ar gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio. Pum munud sydd ei angen.

Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost

Ddydd Iau, 5 Mai, bydd pobl yn pleidleisio i ddewis pwy sy’n eu cynrychioli nhw ar lefel leol. Eleni, bydd trigolion Wrecsam yn pleidleisio i ddewis cynghorwyr a fydd yn cynrychioli eu hardal leol a’i thrigolion ac yn cyfrannu at ddatblygu polisïau mewn meysydd fel cludiant, gofal cymdeithasol a thai.

Dywedodd Ian Bancroft, Swyddog Canlyniadau Wrecsam, “Wythnos sydd ar ôl felly mae amser yn prysur fynd heibio i sicrhau eich bod yn gallu cymryd rhan yn yr etholiadau lleol.

“Mae’r etholiadau’n gyfle pwysig i leisio eich barn a phenderfynu pwy a fydd yn eich cynrychioli ar faterion sy’n effeithio’n uniongyrchol ar fywyd bob dydd yma yn Wrecsam. Rhaid i drigolion fod ar y gofrestr etholiadol i allu pleidleisio. Felly, os nad ydych chi wedi cofrestru erbyn hanner nos, 14 Ebrill, ni fyddwch yn gallu cymryd rhan.”

Dywedodd Rhydian Thomas, Pennaeth Comisiwn Etholiadol Cymru, “Mae’n rhaid i chi fod wedi cofrestru i allu pleidleisio yn yr etholiadau ym mis Mai, ac mae amser yn prinhau. Mae’n gyflym ac yn hawdd – gwaith pum munud ar-lein ar www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio.

“Os ydych chi wedi troi’n 16 yn ddiweddar neu wedi symud i fyw, mae’n bwysig iawn eich bod chi’n sicrhau eich bod wedi cofrestru yn gywir i bleidleisio.

“Os cawsoch eich cofrestru i bleidleisio yn yr etholiad diwethaf ac os nad yw’ch manylion wedi newid, nid oes angen i wneud unrhyw beth.”

Mae gan bleidleiswyr amryw opsiynau – gallant bleidleisio mewn canolfan, trwy’r post neu drwy benodi rhywun maent yn ymddiried ynddo i bleidleisio ar eu rhan, sef pleidlais trwy ddirprwy.

Y dyddiad cau i wneud cais am bleidlais trwy’r post yw 5pm ar 19 Ebrill, ac ar gyfer pleidlais trwy ddirprwy, y dyddiad cau yw 5pm ar 26 Ebrill.

Am fwy o wybodaeth am etholiadau yn eu hardal, sut i gofrestru i bleidleisio, neu sut i wneud cais i bleidleisio trwy’r post neu trwy ddirprwy, gall pobl fynd i’r wefan http://www.electoralcommission.org.uk/pleidleisiwr. Bydd y dudalen hon yn parhau i gael ei diweddaru cyn yr etholiad.

Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_5″]TANYSGRIFWYCH[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Llwybr newydd sydd yn cysylltu Parc Gwledig Erddig, Marchwiail a Llwybr Clywedog Llwybr newydd sydd yn cysylltu Parc Gwledig Erddig, Marchwiail a Llwybr Clywedog
Erthygl nesaf Gosod offer codi symudol a gwely newid yng Nghanolfan Hamdden Y Waun Gosod offer codi symudol a gwely newid yng Nghanolfan Hamdden Y Waun

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Guildhall
Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw
Arall
Awst 14, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Y cyngor
Awst 14, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 13, 2026
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Awst 12, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor

Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027

Awst 12, 2026
Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau
Y cyngor

Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau

Awst 11, 2026
Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru
FideoPobl a lleY cyngor

Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru

Awst 7, 2026
Tân bach, perygl difrifol: rhybudd ar ôl digwyddiadau mewn parciau gwledig
Y cyngor

Tân bach, perygl difrifol: rhybudd ar ôl digwyddiadau mewn parciau gwledig

Awst 5, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English