Yr wythnos hon, cynhaliwyd digwyddiad gwybodaeth a recriwtio arbennig yn Nhŷ Pawb. Roedd y digwyddiad, a gynhaliwyd gan y Bwrdd Iechyd Lleol mewn partneriaeth â Chymunedau am Waith a Mwy, Canolfan Byd Gwaith a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, yn galluogi pobl i ganfod mwy o wybodaeth am y timau cyfleusterau yn Ysbyty Maelor Wrecsam a’r cyfleoedd gyrfa sydd ar gael.
Daeth dros 100 o bobl i’r digwyddiad er mwyn canfod mwy o wybodaeth, ac roedd yn fodd i dîm cyfleusterau Ysbyty Maelor Wrecsam rannu mwy o wybodaeth am y gwaith y maent yn ei wneud i helpu gwasanaethau’r ysbyty i weithredu.
Llwyddwyd i gynnal y digwyddiad hwn drwy waith partneriaeth arbennig ac roedd yn galluogi i wneud 40 o atgyfeiriadau i’r cynllun.
Dywedodd y Cynghorydd Nigel Williams, Aelod Arweiniol Economi ac Adfywio: “Roedd y digwyddiad hwn yn llwyddiant mawr a gobeithio y bydd y cyntaf o sawl digwyddiad tebyg yn y dyfodol. Gall digwyddiadau fel hyn ei gwneud yn haws a symlach i bobl ymgeisio am swyddi ac, yn ei dro, gall hefyd ei gwneud yn haws i gyflogwyr recriwtio. Mae’n wych gweld enghraifft mor llwyddiannus o weithio mewn partneriaeth sydd eisoes wedi arwain at y bwrdd iechyd yn recriwtio ymgeiswyr ardderchog.”
Dywedodd Gwen Scotson, Rheolwr Cyfleusterau, Ysbyty Maelor Wrecsam: “Roeddem yn hapus iawn gyda faint o bobl a ddaeth i’n digwyddiad Recriwtio/Gwybodaeth am Gyfleusterau cyntaf ac yn ddiolchgar i’r ymgeiswyr arbennig a ddaeth i ganfod mwy o wybodaeth am y swyddi sydd ar gael gennym. Rydym eisoes wedi cynnig swyddi parhaol dros dro i nifer o ymgeiswyr llwyddiannus a byddwn yn gwneud mwy o gynigion am swyddi yn y diwrnodau nesaf. Roedd gweithio ar y cyd gyda Chymunedau am Waith a Mwy a’r Cyngor yn brofiad newydd i mi, ac rwy’n ddiolchgar iddynt am roi’r hyder i mi fynd ati i gynnal digwyddiad o’r fath.”
Mae’r Bwrdd Iechyd yn cynnig amodau gwaith ardderchog yn cynnwys hawl i dâl gwyliau hael (yn dechrau ar 28 diwrnod y flwyddyn a Gwyliau Banc ar gyfer staff sy’n gweithio 5 diwrnod yr wythnos), gwisg staff, cyfle i ymuno â Chynllun Pensiwn a thâl uwch am weithio dros y penwythnos ac yn ystod y nos. Am fwy o wybodaeth am y cyfleoedd swyddi sydd ar gael ar hyn o bryd yn Ysbyty Maelor Wrecsam ewch i Swyddi gwag | trac.jobs (wales.nhs.uk)
HAWLIWCH YR HYN SY’N DDYLEDUS I CHI