Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Llwyddiant mawr i ddigwyddiad gwybodaeth a recriwtio gyda dros 100 o bobl yn mynychu
Rhannu
Notification Show More
Latest News
Pupils from the Rofft School at Digital Heroes
Disgyblion Wrecsam yn Arwyr Digidol
Busnes ac addysg
Workplace Recycling is changing in April 2024
Mae ailgylchu yn y gweithle yn newid (Ebrill 2024)
Busnes ac addysg
Green garden waste bin
Llai o gasgliadau gwastraff o’r ardd dros fisoedd y gaeaf
Y cyngor
Mantais gartref i reolwr prosiect ‘Amgueddfa Dau Hanner’
Mantais gartref i reolwr prosiect ‘Amgueddfa Dau Hanner’
Pobl a lle
Private Hire
Dweud eich dweud – Meini Prawf Addasrwydd wedi’u Hadolygu ar gyfer Gyrwyr Cerbydau Hurio Preifat a Cherbydau Hacni
Y cyngor Pobl a lle
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Llwyddiant mawr i ddigwyddiad gwybodaeth a recriwtio gyda dros 100 o bobl yn mynychu
ArallBusnes ac addysgPobl a lleY cyngor

Llwyddiant mawr i ddigwyddiad gwybodaeth a recriwtio gyda dros 100 o bobl yn mynychu

Diweddarwyd diwethaf: 2022/11/18 at 1:40 PM
Rhannu
Darllen 3 funud
recruitment event
RHANNU

Yr wythnos hon, cynhaliwyd digwyddiad gwybodaeth a recriwtio arbennig yn Nhŷ Pawb. Roedd y digwyddiad, a gynhaliwyd gan y Bwrdd Iechyd Lleol mewn partneriaeth â Chymunedau am Waith a Mwy, Canolfan Byd Gwaith a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, yn galluogi pobl i ganfod mwy o wybodaeth am y timau cyfleusterau yn Ysbyty Maelor Wrecsam a’r cyfleoedd gyrfa sydd ar gael.

Daeth dros 100 o bobl i’r digwyddiad er mwyn canfod mwy o wybodaeth, ac roedd yn fodd i dîm cyfleusterau Ysbyty Maelor Wrecsam rannu mwy o wybodaeth am y gwaith y maent yn ei wneud i helpu gwasanaethau’r ysbyty i weithredu.

Cymorth gyda chostau byw – hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi, lleihewch eich biliau, gofalwch am eich iechyd.

Llwyddwyd i gynnal y digwyddiad hwn drwy waith partneriaeth arbennig ac roedd yn galluogi i wneud 40 o atgyfeiriadau i’r cynllun.

Dywedodd y Cynghorydd Nigel Williams, Aelod Arweiniol Economi ac Adfywio: “Roedd y digwyddiad hwn yn llwyddiant mawr a gobeithio y bydd y cyntaf o sawl digwyddiad tebyg yn y dyfodol.  Gall digwyddiadau fel hyn ei gwneud yn haws a symlach i bobl ymgeisio am swyddi ac, yn ei dro, gall hefyd ei gwneud yn haws i gyflogwyr recriwtio.  Mae’n wych gweld enghraifft mor llwyddiannus o weithio mewn partneriaeth sydd eisoes wedi arwain at y bwrdd iechyd yn recriwtio ymgeiswyr ardderchog.”

Dywedodd Gwen Scotson, Rheolwr Cyfleusterau, Ysbyty Maelor Wrecsam:  “Roeddem yn hapus iawn gyda faint o bobl a ddaeth i’n digwyddiad Recriwtio/Gwybodaeth am Gyfleusterau cyntaf ac yn ddiolchgar i’r ymgeiswyr arbennig a ddaeth i ganfod mwy o wybodaeth am y swyddi sydd ar gael gennym. Rydym eisoes wedi cynnig swyddi parhaol dros dro i nifer o ymgeiswyr llwyddiannus a byddwn yn gwneud mwy o gynigion am swyddi yn y diwrnodau nesaf.  Roedd gweithio ar y cyd gyda Chymunedau am Waith a Mwy a’r Cyngor yn brofiad newydd i mi, ac rwy’n ddiolchgar iddynt am roi’r hyder i mi fynd ati i gynnal digwyddiad o’r fath.”

- Cofrestru -
Armed forces community carol service

Mae’r Bwrdd Iechyd yn cynnig amodau gwaith ardderchog yn cynnwys hawl i dâl gwyliau hael (yn dechrau ar 28 diwrnod y flwyddyn a Gwyliau Banc ar gyfer staff sy’n gweithio 5 diwrnod yr wythnos), gwisg staff, cyfle i ymuno â Chynllun Pensiwn a thâl uwch am weithio dros y penwythnos ac yn ystod y nos. Am fwy o wybodaeth am y cyfleoedd swyddi sydd ar gael ar hyn o bryd yn Ysbyty Maelor Wrecsam ewch i Swyddi gwag | trac.jobs (wales.nhs.uk)

O ran costau byw, gallai gwneud yn siwr eich bod yn hawlio yr holl gymorth a chefnogaeth y mae gennych hawl iddo wneud gwahaniaeth mawr.

HAWLIWCH YR HYN SY’N DDYLEDUS I CHI

Rhannu
Erthygl flaenorol Road clean up Gwaith cynnal a chadw arferol priffyrdd i fynd rhagddo
Erthygl nesaf Wrexham Museum Up The Town! – Cefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Pupils from the Rofft School at Digital Heroes
Disgyblion Wrecsam yn Arwyr Digidol
Busnes ac addysg Rhagfyr 5, 2023
Workplace Recycling is changing in April 2024
Mae ailgylchu yn y gweithle yn newid (Ebrill 2024)
Busnes ac addysg Rhagfyr 5, 2023
Green garden waste bin
Llai o gasgliadau gwastraff o’r ardd dros fisoedd y gaeaf
Y cyngor Rhagfyr 5, 2023
Mantais gartref i reolwr prosiect ‘Amgueddfa Dau Hanner’
Mantais gartref i reolwr prosiect ‘Amgueddfa Dau Hanner’
Pobl a lle Rhagfyr 5, 2023

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Pupils from the Rofft School at Digital Heroes
Busnes ac addysg

Disgyblion Wrecsam yn Arwyr Digidol

Rhagfyr 5, 2023
Workplace Recycling is changing in April 2024
Busnes ac addysg

Mae ailgylchu yn y gweithle yn newid (Ebrill 2024)

Rhagfyr 5, 2023
Green garden waste bin
Y cyngor

Llai o gasgliadau gwastraff o’r ardd dros fisoedd y gaeaf

Rhagfyr 5, 2023
Mantais gartref i reolwr prosiect ‘Amgueddfa Dau Hanner’
Pobl a lle

Mantais gartref i reolwr prosiect ‘Amgueddfa Dau Hanner’

Rhagfyr 5, 2023
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Fy Niweddariadau
  • Hysbysiadau awtomatig
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English