Ydych chi erioed wedi dymuno ceisio rhai o’r gweithgareddau sydd yn cael eu cynnig yn ein canolfannau hamdden a gweithgareddau, ond yn ansicr pa un fyddai’n eich gweddu chi?
A fyddai penwythnos blasu, lle byddwch yn cael ceisio pethau am ddim o ddiddordeb i chi?
Os felly, darllenwch y canlynol…
EISIAU MWY O AWGRYMIADAU A GWYBODAETH? COFRESTRWCH I DDERBYN EIN CYLCHLYTHYRAU AILGYLCHU AR E-BOST…
Penwythnos Agored
O ddydd Gwener, 1 Mawrth nes dydd Sul, 3 Mawrth, bydd Freedom Leisure yn agor drysau eu pedair canolfan sy’n cael eu rhedeg mewn partneriaeth gyda ni yng Nghyngor Wrecsam, ac yn gwahodd y cyhoedd am ddim.
Mae hynny’n cynnwys: Canolfan Weithgareddau ac Waterworld Leisure, Canolfan Hamdden a Gweithgareddau Gwyn Evans, Stadiwm Queensway, a Chanolfan Hamdden a Gweithgareddau’r Waun.
Bydd yr ystod eang o weithgareddau sy’n cael eu cynnig yn ystod y Penwythnos Agored yn cynnwys:
- Defnydd o’r ystafelloedd ffitrwydd AM DDIM
- Dosbarthiadau Ymarfer Corff AM DDIM
- Defnydd AM DDIM o’r Aqua Run teganau dŵr yn y pwll ar gyfer plant dan 16 mlwydd oed (yn Waterworld, Gwyn Evans a’r Waun)
- Defnydd o’r cyrtiau sboncen a’r traciau athletau yn Queensway AM DDIM
- Cynigion Aelodau, gan gynnwys tri mis AM DDIM, neu aelodaeth heb ffi ymuno
– a llawer mwy!
Mae’r penwythnos yn nodi tair blynedd ers i ni ymuno â’r bartneriaeth gyda Freedom Leisure, i redeg ein canolfannau hamdden a gweithgareddau.
Dywedodd y Cyng. Andrew Atkinson, Aelod Arweiniol Gwasanaethau Ieuenctid a Gwrth-dlodi: “Mae cryn dipyn o bobl sydd eisiau roi cynnig ar aelodaeth pwll nofio neu’r gampfa, neu eisiau ceisio dosbarth ymarfer corff, ond heb fod yn sicr a yw at eu dant hwy neu beidio.
“Bydd y penwythnos agored, sy’n nodi tair blynedd ers ymuno gyda Freedom Leisure i reoli canolfannau hamdden a gweithgareddau – yn darparu cyfle gwych i unrhyw un sydd wedi ystyried rhoi cynnig arni.
“Ac os ydyn nhw’n mwynhau’r diwrnod i’r pwynt lle maent yn dymuno ymuno yn y tymor hir, bydd cynigion ar aelodaeth ar gael iddynt hefyd.”
Dywedodd Andy Harris, Rheolwr Ardal Freedom Leisure: “Fel mae’r Cynghorydd Atkinson yn ei ddweud, rydym yn cynnal y penwythnos agored hwn fel digwyddiad ‘ceisio cyn prynu’ – rydym yn aml yn clywed gan bobl leol nad ydynt yn defnyddio’r cyfleusterau oherwydd nad oes ganddynt syniad beth y byddant yn mwynhau neu ddim yn ei fwynhau.
“Fel hyn, gall pobl ddod a rhoi cynnig ar beth bynnag y dymunant am ddim heb rwymedigaeth, yna os ydynt yn penderfynu ymuno, gallent gymryd mantais o’r cynigion arbennig sydd gennym ar hyn o bryd.”
Eisiau mwy o awgrymiadau a gwybodaeth? Cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyrau ailgylchu ar e-bost…
COFRESTRU