Mae Diwrnod y Llyfr yn prysur agosáu a bydd Llyfrgell Wrecsam unwaith eto yn cynnig digwyddiad cyfnewid Gwisg Ffansi!
Os oes gennych chi wisgoedd ffansi plant nad ydyn nhw’n ffitio’ch plentyn mwyach, neu na fydd yn cael eu defnyddio eto, yna mae ei roi i’r digwyddiad cyfnewid yn ffordd wych o sicrhau nad yw’n mynd i wastraff.
Sut mae’n gweithio?
Os dewch â’ch gwisgoedd diangen i Lyfrgell Wrecsam cyn dydd Sadwrn 22 Chwefror 2025, byddwch yn derbyn tocyn y gellir ei ddefnyddio i gael gwisg newydd yn y Diwrnodau Cyfnewid dros hanner tymor.
Bydd y tocyn yn eich galluogi i ddewis gwisg a roddwyd gan gyfnewidwyr eraill i fynd â hi adref a’i chadw am ddim! Peidiwch â phoeni os nad ydych yn dymuno cael gwisg arall, gallwch roi eich tocyn i rywun arall sydd ei angen o bosibl.
Mae’n rhaid i wisgoedd gwisg ffansi fod yn lân, mewn cyflwr da ac yn addas ar gyfer plant ysgol gynradd.
Bydd y diwrnodau cyfnewid yn cael eu cynnal o ddydd Llun, 24 Chwefror tan ddydd Sadwrn, 1 Mawrth. (Os ydych yn bwriadu rhoi rhywbeth, bydd angen i chi fod wedi dod â’ch gwisg cyn 22 Chwefror i gael eich tocyn).
Ar ddiwedd y Diwrnodau Cyfnewid Gwisg Ffansi bydd unrhyw wisgoedd dros ben yn cael eu rhoi i elusen.
Mwy o wybodaeth
Os hoffech chi gael mwy o wybodaeth am y digwyddiad hwn, cysylltwch â’r llyfrgell yn uniongyrchol – E-bost library@wrexham.gov.uk neu ffoniwch 01978 292090.
Efallai yr hoffech hefyd ddarllen: Nofio am ddim o dan 16 oed – Hanner Tymor