Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Disgyblion talentog yn ysgrifennu geiriau gwych i gân newydd i Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Disgyblion talentog yn ysgrifennu geiriau gwych i gân newydd i Wrecsam
Busnes ac addysg

Disgyblion talentog yn ysgrifennu geiriau gwych i gân newydd i Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: Chwefror 13, 2025 2:44 pm
Rhannu
Darllen 5 funud
Disgyblion talentog yn ysgrifennu geiriau gwych i gân newydd i Wrecsam
Diolch i Rick Matthews a Cerdd Cydweithredol Wrecsam am y lluniau
RHANNU

Mae Ysgol Rhiwabon wedi ei choroni fel enillydd cystadleuaeth a heriodd ysgolion i ysgrifennu pennill a rap gwreiddiol i’w cynnwys mewn darn cerddorol gwych o’r enw ‘Cân i Wrecsam’.

Cynnwys
  • “Poeni’n fawr am eu cymuned”
  • “Mae’r canlyniad yn wych”
  • “Yn ffodus i allu gweithio gyda Cerdd Cydweithredol Wrecsam”
  • Beth mae’r disgyblion yn ei ddweud?

Rhoddodd aelodau Cerdd Cydweithredol Wrecsam y gân at ei gilydd ac mae’r cynnyrch terfynol yn benllanw misoedd lawer o waith caled. Cynhaliwyd gweithdai ym mhob ysgol uwchradd yn yr ardal cyn i drefnwyr y gystadleuaeth ddewis Ysgol Rhiwabon fel yr enillydd.

Fel enillwyr y gystadleuaeth, gwobr Ysgol Rhiwabon oedd gwerth £1,000 o offerynnau cerdd – cyflawniad gwych i’r ysgol.

Mae ‘Cân i Wrecsam’ yn talu teyrnged i dreftadaeth lofaol a chynhyrchu dur falch yr ardal, gyda chyfeiriadau at frics coch enwog Rhiwabon ac Eglwys San Silyn, un o saith rhyfeddod Cymru, yn ogystal â thwf presennol Clwb Pêl-droed Wrecsam.

Dywedodd Wyn Pearson, arweinydd artistig Cerdd Cydweithredol Wrecsam: “Fe wnaethon ni roi pennill a chytgan at ei gilydd ac fe wnaethon ni wahodd pob ysgol uwchradd i ysgrifennu eu pennill a’u rap eu hunain i fynd gyda’r gân. Fe chwaraeodd pob myfyriwr yn Ysgol Rhiwabon ei ran, roedd yn ymdrech anhygoel.”

Mae fideo wedi cael ei ryddhau gyda’r disgyblion a gymerodd ran yn y gystadleuaeth. Gwyliwch a gwrandewch…

“Poeni’n fawr am eu cymuned”

Dywedodd Sandra Tarver, arweinydd cwricwlwm cerddoriaeth yn Ysgol Rhiwabon: “Rydym wrth ein bodd bod yr ysgol wedi ennill y gystadleuaeth, mae’n gyflawniad gwych.

“Diolch yn fawr iawn i aelodau’r grŵp cerdd cydweithredol am ddod i mewn i’r ysgol a gwneud i hyn i gyd ddigwydd. Roedd yn gyfle gwych i ni i gyd gymryd rhan. Roedd y myfyrwyr wrth eu bodd â’r holl broses.

“Rydym yn ysgol gymunedol ac roedd yn amlwg iawn gyda’r syniadau roedd y myfyrwyr yn meddwl amdanynt eu bod yn poeni’n fawr am eu cymuned, ac mae hynny’n cael ei ddangos yn y geiriau y gwnaethon nhw feddwl amdanynt.”

“Mae’r canlyniad yn wych”

Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam:   “Mae’r fideo, y gerddoriaeth a’r geiriau yn fendigedig ac rwy’n gallu gweld pam mai ei henw yw ‘Cân i Wrecsam’. Hoffwn longyfarch Cerdd Cydweithredol Wrecsam ac Ysgol Rhiwabon am yr ymdrech y maent wedi’i roi i’r prosiect – mae’r canlyniad yn wych. Mae pethau fel hyn wir yn arddangos y gorau o Wrecsam.”

“Yn ffodus i allu gweithio gyda Cerdd Cydweithredol Wrecsam”

Dywedodd y Cynghorydd Phil Wynn, yr Aelod Arweiniol Addysg: “Yn Wrecsam, rydyn ni mor ffodus i allu gweithio gyda Cerdd Cydweithredol Wrecsam ac mae’r prosiect hwn yn enghraifft arall o ba mor greadigol yw’r grŵp cydweithredol a’n pobl ifanc. Mae’r cynnyrch terfynol yn dangos manteision codi offeryn cerddorol a mynd amdani.”

Beth mae’r disgyblion yn ei ddweud?

Mae’r disgyblion o Ysgol Rhiwabon wrth eu boddau gyda’r gân a’r fideo gorffenedig, ac fe wnaethon nhw fwynhau’r profiad cyfan yn fawr.

Dywedodd Holly Jones, sy’n rapio un o’r penillion: “Roeddwn i mor hapus i fod yn rhan o’r gân a’r rap. Fe wnes i wirfoddoli ar unwaith i wneud y rap oherwydd roeddwn i’n teimlo fy mod i’n ddigon hyderus i’w wneud. Mae fy nheulu yn falch iawn ohonof i, mae’n un o’r pethau mwyaf rydw i erioed wedi’i wneud yn fy mywyd.”

Dywedodd Elsie Davies-Bottomley: “Rydw i’n meddwl bod y fideo yn grêt achos mae’n cynrychioli Wrecsam yn dda ac yn cynrychioli’r diwydiant cerddoriaeth hefyd. Mae’n dod â rhywbeth da i Wrecsam.”

Ychwanegodd Emily Stephenson: “Mae’r fideo yn ein gwneud ni mor falch o fod o Riwabon ac o Wrecsam.”

Disgyblion talentog yn ysgrifennu geiriau gwych i gân newydd i Wrecsam
Diolch i Rick Matthews a Cerdd Cydweithredol Wrecsam am y lluniau
Disgyblion talentog yn ysgrifennu geiriau gwych i gân newydd i Wrecsam
Diolch i Rick Matthews a Cerdd Cydweithredol Wrecsam am y lluniau

Dathliadau Dydd Gŵyl Dewi Wrecsam 2025 – Newyddion Cyngor Wrecsam

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.

Rhannu
Erthygl flaenorol Tourism Y cyfnod ymgeisio diweddaraf ar gyfer CFfG yn agor yn fuan – grantiau ar gael o £50k hyd at £700k
Erthygl nesaf Plentyn ifanc mewn gwisg ffansi gyda mwgwd gwyrdd Oes gennych chi wisgoedd gwisg ffansi nad ydych eu hangen?

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Cloudy sky
Rhybudd tywydd – Storm Austen
Y cyngor Arall
Hydref 22, 2026
Sam Gardner
Athro ac awdur i roi sgwrs bwerus ar y system ofal
Digwyddiadau Arall Busnes ac addysg
Hydref 22, 2026
Wrecsam 2029
Mae’n swyddogol! Mae Wrecsam wedi’i henwi ar restr fer derfynol teitl Dinas Diwylliant y DU
Pobl a lle
Hydref 22, 2026
Mayor attending the Taste of Nigeria Festival
Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Hydref
Pobl a lle Arall
Hydref 21, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Busnes ac addysgPobl a lle

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi

Hydref 21, 2026
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg

Datblygu arloesi ffresni bwyd

Hydref 20, 2026
Mae gennym lu o swyddi gwag newydd i chi eu chwilio...
Busnes ac addysg

Mae gennym lu o swyddi gwag newydd i chi eu chwilio…

Hydref 9, 2026
All Saints School Pupils
Busnes ac addysgPobl a lle

Aur i Gresffordd – Ysgol yr Holl Saint yn creu hanes yn Wrecsam!

Hydref 7, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English