Mae nifer o bysgod marw wedi eu canfod yn Llyn Parc Acton yn ddiweddar a allai fod o ganlyniad i nifer o resymau. Gallai fod oherwydd bod lefelau ocsigen yn isel o ganlyniad i’r tywydd cynnes neu gallai fod o ganlyniad i firws pysgod a elwir yn KHV. Nid yw’n niweidiol i bobl.
Mae’r Arolygiaeth Iechyd Pysgod yn cynnal profion i ganfod pa un a oes yna firws. Bydd y profion yn cymryd hyd at bedair wythnos i’w cadarnhau, neu fel arall, presenoldeb y clefyd.
Mae hysbysiadau wedi eu gosod a bydd beilïaid yn helpu i orfodi’r cau dros dro. Byddwn yn gadael i chi wybod pan fydd wedi agor eto ar gyfer pysgota.