Mae plant o Ysgol Gynradd Parc Borras ac Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru wedi cynnal digwyddiad i ddathlu coeden Gastanwydden Bêr ryfeddol ym Mharc Acton sydd wedi derbyn gwobr Coeden y Flwyddyn y DU.
Fel rhan o’r dathliadau cafodd llwyth o gnau eu casglu o’r goeden a fydd yn cael eu tyfu ym meithrinfeydd Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru a’u hail-blannu ar draws Wrecsam a Gogledd Cymru i sicrhau fod y goeden a’i threftadaeth yn cael ei cadw ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Meddai Sarah Ellis, Swyddog Tirlunio Byw ar gyfer Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, “Mae’n hyfryd ymrwymo cynghorau, cymunedau ac ysgolion lleol, ac i ddod ynghyd i ddathlu a chynnal y cewri mawreddog hyn ar gyfer ein tirlun ar gyfer bywyd gwyllt a chenedlaethau’r dyfodol. Mae’r diwrnod hwn o gasglu cnau castan yn ein galluogi i dyfu mwy o’r coed rhyfeddol hyn ac i’w plannu yn ôl yn ein tirwedd ledled Gogledd Cymru.”
Gwybodaeth am enillydd Coeden y Flwyddyn
Coeden Castanwydden Bêr Wrecsam oedd yr unig goeden i gael ei henwebu o Gymru ar gyfer y wobr ac mae ganddi gylchedd sylweddol o 6.1m ac uchder o 24m, sy’n dangos ei bod wedi bod yn sefyll am oddeutu 490 mlynedd.
Mae wedi gwrthsefyll nifer fawr o heriau yn ystod ei hanner mileniwm ar y ddaear, o ddinistrio’r parc er mwyn cael coed tân yn y 1940au yn dilyn y rhyfel, i ddwsinau o stormydd angheuol, gan gynnwys yn 2021 pan gollodd nifer o’r coed amgylchynol eu canghennau neu eu chwythu i’r llawr yn llwyr.
Mae’r goeden fawreddog bellach yn nodwedd bwysig o ddigwyddiadau cymunedol megis dathliadau’r parti coed eleni ac yn boblogaidd iawn ymhlith trigolion lleol yn sgil ei hanes, gwerth a’i harddwch.
Arwyddwch yr Addewid Coetir
Mae coed yn adnabyddus ac yn destun dathlu yn Wrecsam; mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi gwneud ei ‘Haddewid Coetir’ i helpu i ddiogelu coed a choedwigoedd ar draws y fwrdeistref sirol – ac yn annog unrhyw un i ymuno, gan gynnwys busnesau, grwpiau cymunedol a sefydliadau lleol.
Addewid Coetir Wrecsam | Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Efallai yr hoffech chi hefyd ddarllen 5 Rhagfyr….cadwch y dyddiad yn rhydd! Gwasanaeth Carolau Cymuned Lluoedd Arfog Wrecsam