Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Disgyblion Wrecsam yn cymryd cam ymlaen ar gyfer Mis Rhyngwladol Cerdded i’r Ysgol
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Disgyblion Wrecsam yn cymryd cam ymlaen ar gyfer Mis Rhyngwladol Cerdded i’r Ysgol
Busnes ac addysg

Disgyblion Wrecsam yn cymryd cam ymlaen ar gyfer Mis Rhyngwladol Cerdded i’r Ysgol

Diweddarwyd diwethaf: Tachwedd 3, 2023 9:39 am
Rhannu
Darllen 4 funud
St Mary's pupils during International Walk to School Month
RHANNU

Erthygl wadd – Living Streets

Nododd Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair yn Wrecsam a’r elusen Living Streets Cymru Fis Rhyngwladol Cerdded i’r Ysgol mewn digwyddiad i ddathlu ddydd Iau, 26 Hydref.

Fel rhan o brosiect dwy flynedd, mae Living Streets Cymru’n gweithio gyda 170 o ysgolion cynradd a 42 o ysgolion uwchradd i ddarparu ei raglen cerdded i’r ysgol yng Nghymru.   

Mae Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair yn un o wyth o ysgolion yn Wrecsam sy’n dechrau her cerdded i’r ysgol Living Streets – WOW  yn y flwyddyn academaidd hon.   

Fel rhan o’r her WOW, mae disgyblion yn cofnodi sut maent yn mynd i’r ysgol gan ddefnyddio Traciwr Teithio rhyngweithiol WOW a bydd y rhai sy’n cerdded, seiclo, mynd ar olwynion, sgwter neu’n ‘parcio a cherdded’ i’r ysgol yn derbyn bathodyn WOW misol.  

Dim ond 50% o blant ysgol gynradd yng Nghymru sy’n cerdded i’r ysgol ac mae Living Streets yn gweithio i helpu rhagor o deuluoedd i ddewis ffyrdd glanach ac iachach o deithio.  Mae ysgolion WOW fel arfer yn gweld cynnydd yn y cyfraddau cerdded o 23%, gyda gostyngiad o 30% yn y ceir sy’n gyrru i giatiau’r ysgol.

Dywedodd Stephen Edwards, Prif Weithredwr Living Streets, “Mae cerdded neu fynd ar olwynion i’r ysgol yn ffordd hawdd i blant a theuluoedd gadw’n heini, yn iach ac yn hapus.  Mae’n helpu i gyfrannu at y 60 munud o ymarfer corff a argymhellir gan arbenigwyr iechyd, gan leihau traffig, allyriadau carbon a llygredd yn yr aer.   

“Mae’n braf gweld mwy o ddisgyblion yn Wrecsam ac ar draws Cymru’n mwynhau’r buddion o gerdded i’r ysgol gyda WOW.”  

Disgyblion Wrecsam yn cymryd cam ymlaen ar gyfer Mis Rhyngwladol Cerdded i’r Ysgol

Meddai Gwen Thomas, Rheolwr Cludiant Strategol Cyngor Wrecsam “Cefais fore hyfryd yn cwrdd â disgyblion ac athrawon yn Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair a dysgu am sut maent yn mwynhau cerdded i’r ysgol.  

“Mae’n wych gweld sut mae’r ysgol yn gweithio gyda Living Streets Cymru i wneud cerdded i’r ysgol yn opsiwn hygyrch i ddisgyblion a’u teuluoedd. Rwy’n siŵr y bydd hyn yn annog rhagor o blant i wneud y mwyaf o’r buddion iechyd ac amgylcheddol sydd ynghlwm ag ymarfer corff rheolaidd.”   Meddai Mrs Acton, Pennaeth Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair: “Yn Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair, rydym yn ystyried bod Mis Rhyngwladol Cerdded i’r Ysgol yn gyfle gwych i ddechrau ein siwrnai teithio llesol newydd gydag WOW.  Rwy’n siŵr y bydd disgyblion yn mwynhau defnyddio Traciwr Teithio rhyngwladol WOW i gofnodi eu siwrneiau bob bore – a bydd yn annog rhagor o blant a’u teuluoedd i fwynhau cerdded, seiclo, mynd ar olwynion neu sgwter i’r ysgol ac edrychwn ymlaen at weld yr effaith gadarnhaol y bydd hyn yn ei chael ar eu lles a’n hamgylchedd.”    

Gall ein dewisiadau bach helpu i wneud gwahaniaeth – Newyddion Cyngor Wrecsam

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.

TAGGED:cerddedSchoolwalkwrecsamwrexhamysgol
Rhannu
Erthygl flaenorol Gwobr Coeden y Flwyddyn yn cael ei dathlu gan blant ysgol lleol Gwobr Coeden y Flwyddyn yn cael ei dathlu gan blant ysgol lleol
Erthygl nesaf Waste Gwiriwch eich diwrnod casglu wrth i gasgliadau arferol barhau

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Parciau am ddim ar ddiwrnodau gemau
Wrecsam v Preston: dewiswch y parcio a theithio
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 14, 2026
Wrecsam yn paratoi ar gyfer y gaeaf sydd o'n blaenau
Wrecsam yn paratoi ar gyfer y gaeaf sydd o’n blaenau
Y cyngor
Hydref 14, 2026
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg
Hydref 13, 2026
Bwrdd Gweithredol yn rhoi sêl bendith i ymgynghoriadau
Bwrdd Gweithredol yn rhoi sêl bendith i ymgynghoriadau
Busnes ac addysg
Hydref 13, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Mae gennym lu o swyddi gwag newydd i chi eu chwilio...
Busnes ac addysg

Mae gennym lu o swyddi gwag newydd i chi eu chwilio…

Hydref 9, 2026
All Saints School Pupils
Busnes ac addysgPobl a lle

Aur i Gresffordd – Ysgol yr Holl Saint yn creu hanes yn Wrecsam!

Hydref 7, 2026
Twf cynaliadwy gyda chefnogaeth Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam
Busnes ac addysg

Twf cynaliadwy gyda chefnogaeth Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam

Hydref 6, 2026
Mae rhagolygon gyrfa newydd ychydig o gliciau i ffwrdd! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf...
Busnes ac addysg

Mae rhagolygon gyrfa newydd ychydig o gliciau i ffwrdd! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…

Medi 29, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English