Mae atyniad newydd o bwys yn dod i ganol tref Wrecsam – ac mae angen eich help arnom i’w ddatblygu a’i ddylunio!
Mae Cyngor Wrecsam mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru yn bwriadu ailddatblygu adeilad Amgueddfa Wrecsam yn sylweddol i greu Amgueddfa Bêl-droed Cymru ar y cyd ag Amgueddfa Wrecsam, gyda’r ddwy ar yr un safle. Bydd yr amgueddfa yn cydnabod pwysigrwydd pêl-droed yng Nghymru ac yn sicrhau lle Wrecsam fel cartref ysbrydol pêl-droed yng Nghymru.
Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.
Bydd amgueddfa newydd yn ‘adrodd stori pêl-droed yng Nghymru’
Bydd yr Amgueddfa Bêl-droed newydd yn atyniad anferthol i ganol tref Wrecsam ac yn atynnu ymwelwyr o bob cwr o’r wlad a thu hwnt. Bydd yn adrodd stori pêl-droed yng Nghymru, o’r clybiau, cymunedau a’r cefnogwyr ar draws y wlad yr holl ffordd i fyny at y timau cenedlaethol a’u cyraeddiadau hanesyddol.
Bydd Amgueddfa Wrecsam yn fwy ac yn well nag erioed
Bydd yr Amgueddfa Bêl-droed drws nesaf i orielau newydd a fydd yn edrych yn ôl ar hanes Wrecsam, o straeon am ei breswylwyr cyn-hanesyddol a adroddir trwy dystiolaeth archeolegol, y cyfnod Rhufeinig, amseroedd canoloesol, caledi a heriau’r oes ddiwydiannol, rhyfeloedd y cyfnod modern a sut yr oedd pobl Wrecsam yn arfer byw, gweithio a chymdeithasu hyd at heddiw trwy’r casgliadau sy’n cael eu cadw mewn ymddiriedolaeth gan yr amgueddfa.
Rydym angen chi!
I’n helpu ni ddatblygu a dylunio amgueddfa sy’n cwrdd ag anghenion ymwelwyr a chymunedau ledled Cymru hoffem glywed eich safbwyntiau. Gallwch ein helpu drwy atebwch y cwestiynau yn yr arolwg hwn.
Defnyddir ymatebion yr arolwg i lywio datblygiad Amgueddfa Wrecsam ac Amgueddfa Bêl-droed newydd Cymru.
Amser cyffrous i’r dref
Meddai’r Cyng. Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol Cyngor Wrecsam: “Mae prosiect yr Amgueddfa Bêl-droed yn parhau i wneud cynnydd da ac rydym bellach wedi cyrraedd y cam lle gall ymgynghori cyhoeddus ar y cam dylunio ddechrau o ddifrif. Rydyn ni eisiau casglu barn gan gynifer o bobl â phosib, nid yn unig ymwelwyr traddodiadol â’r amgueddfa ond hefyd bobl nad ydyn nhw fel arfer yn ymweld â’r amgueddfa, ac wrth gwrs unrhyw un sydd â diddordeb ym mhrosiect newydd yr Amgueddfa Bêl-droed.
“Bydd yr ymatebion i’r arolwg hwn yn cael eu trafod gyda thîm dylunio’r prosiect a byddant yn hynod bwysig wrth helpu i lywio’r cynigion cynnar ar gyfer yr atyniad mawr newydd hwn yng nghanol y dref – Amgueddfa Bêl-droed i Gymru ochr yn ochr ag Amgueddfa Wrecsam wedi’i hailwampio a’i hadnewyddu. . ”
Dywedodd Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon: “Mae ein hanes a’n diwylliant unigryw yn dod â llawer o ymwelwyr i Gymru. Rydym yn benderfynol o wneud popeth o fewn ein gallu i helpu ein diwydiannau twristiaeth, chwaraeon, creadigol a diwylliannol i wella o brofiad y pandemig a ffynnu yn y dyfodol. Rydyn ni’n gobeithio y bydd yr amgueddfa bêl-droed a’r orielau arfaethedig yn helpu i ddenu llawer o ymwelwyr newydd i Wrecsam ac yn cefnogi’r economi leol ar adeg gyffrous i’r dref. ”
‘Mae pêl-droed yn ymwneud â’r cefnogwyr’
Mae prosiect yr Amgueddfa Bêl-droed eisoes wedi tynnu diddordeb oddi wrth ychydig o enwau adnabyddus gêm Cymru, gan gynnwys Ian Walsh (18 cap a 7 gôl i Gymru).
Meddai Ian: “Rwy’n credu bod y prosiect amgueddfa bêl-droed newydd i Gymru yn wych ac yn gyffrous iawn. Mae hyn yn arbennig o wir i mi gan ei fod wedi’i leoli yn Wrecsam lle cefais un o’r diwrnodau balchaf mewn crys Cymreig yn curo Lloegr 4-1 !!
“Mae pêl-droed yn ymwneud â’r cefnogwyr ac mae’n gyfle gwych iddyn nhw gael eu barn wrth symud ymlaen!”
Ni ddylai’r arolwg gymryd mwy na 10 munud. Bydd eich atebion yn parhau i fod yn gyfrinachol ac ond yn cael eu defnyddio i helpu gyda’r cynigion cynnar ar gyfer yr amgueddfa.
DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL