Mae angen glanhawyr

Rydym yn edrych am lanhawyr wrth gefn brwdfrydig a hyblyg i weithio mewn lleoliadau amrywiol yn ardal Wrecsam, gan gynnwys swyddfeydd, ysgolion, canolfannau pobl ifanc a chanolfannau chwaraeon.

Byddwch yn cyflenwi ar gyfer gwyliau blynyddol a salwch staff fel bo angen.

Fel glanhawr wrth gefn byddwch chi’n gallu derbyn neu wrthod gwaith a gallwch nodi ble a pryd rydych yn gallu gweithio.

Bydd y rhan fwyaf o’r gwaith rhwng 3.30pm a 7.00pm er mae’n bosib y bydd peth gwaith bore hefyd ar gael.

Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer y swydd hon.

Dysgwch fwy am yr hyn a ddisgwylir yma

I gael rhagor o wybodaeth ffôn Tiffany Underhill 01978 315643

Mae’r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.

Mae’r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae’n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.