Bydd gwaith celf gyhoeddus anferth ar gyfer y cyfleuster celfyddydau a marchnad newydd yn cael eu creu gan yr artist Katie Cuddon ac mae hi’n edrych ymlaen yn fawr am y peth.
Mae hi wedi curo cystadleuaeth gan gref o geisiadau a dderbyniwyd gan artistiaid ar draws y DU i gael y comisiwn, gan gynnwys digwyddiad ymgynghori â masnachwyr lleol a phroses cyfweld.
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.
Roedd y broses ddewis yn cynnwys digwyddiad ymgynghori hefo masnachwyr lleol ac roedd cynrychiolydd masnachwyr lleol, Keith Evans o Oriel Annibynnol Wrecsam, hefyd ar y panel cyfweld.
Bydd Katie rŵan yn cael ei chomisiynu i greu darn o gelf enfawr ar gyfer cyfnod agoriadol Wal Pawb. Mae disgwyl gwaith llachar, anturus a chwareus fel canolbwynt ar gyfer y ganolfan newydd.
Bydd Wal Pawb yn dangos y Celfyddydau a’r Marchnadoedd yn dod ynghyd o fewn y datblygiad newydd. Bydd y gwaith celf terfynol yn ymestyn dros ddau fwrdd poster mawr a bydd y mwyaf yn 9 metr o hyd. Bydd y ddau fwrdd yn cynnwys tri llun yr un a fydd yn cylchdroi.
Dros y chwe mis nesaf, fe fydd Katie’n gweithio gyda nifer o grwpiau ac aelodau o’r cyhoedd i gael ysbrydoliaeth ar gyfer y gwaith. Bydd gwaith Katie ar Wal Pawb yn cael ei ddadorchuddio wrth agor y Ganolfan Gelfyddydau, Marchnadoedd a Diwylliant newydd yn ystod gwanwyn 2018.
Bydd y gwaith i’w weld am 12 mis cyn i gomisiwn newydd ddod yn ei le.
“Mae’n gyfle cyffrous iawn i greu gwaith celf ar gyfer cyd-destun arloesol ac anaml iawn: cyfuno oriel gelf a marchnad.”
Dywedodd Katie:
“Mi ydw i wedi gwirioni o fod wedi cael fy newid i greu cyfres o weithiau celf ar gyfer Wal Pawb. Mae’n gyfle cyffrous iawn i greu gwaith celf ar gyfer cyd-destun arloesol ac anaml iawn: cyfuno oriel gelf a marchnad. Mi ydw i’n edrych ymlaen at weithio hefo masnachwyr a defnyddwyr y farchnad a’r delweddau sydd i’w gweld mewn marchnad. Mi ydw i am i’r gweithiau terfynol gynnwys holl ddelweddau, egni, bywyd ac agweddau cymdeithasol marchnad fel eu bod yn adlewyrchu’r amgylchedd y maen nhw ynddo gan hefyd fod yn fyd ar eu pennau eu hunain.”
“…a fydd yn rhan bwysig o’n canolfan gelfyddyd”
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol:
“Llongyfarchiadau i Katie sydd wedi plesio pawb a oedd yn rhan o’r broses ddewis ac a oedd yn meddwl bod arbenigedd Katie yn amlwg. Mi ydw i’n edrych ymlaen at gael gweld ei chreadigaethau hi, a fydd yn rhan bwysig o’n canolfan gelfyddyd a marchnadoedd newydd.”
Wrth wraidd y prosiect mae denu’r gymuned leol i gymryd rhan, yn ogystal â dangos safon gelfyddydol y byddai rhywun yn ei disgwyl yn y datblygiad newydd. Bydd y gwaith terfynol, a gweithiau eraill ar Wal Pawb yn y dyfodol, yn rhywbeth y bydd Wrecsam yn gallu ymfalchïo ynddo wrth iddo ddenu cydnabyddiaeth o bob cwr o’r wlad.
Cyn hyn, mae Katie wedi dangos ei gwaith yng Nghymru, ar hyd y DU ac yn rhyngwladol.
COFRESTRWCH FI