Mae Bargen Dwf Gogledd Cymru, sy’n werth sawl miliwn o bunnau, wedi gwneud cynnydd trwy lofnodi Penawdau Telerau gyda Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru.
Mae Llywodraethau’r DU a Chymru eisoes wedi ymrwymo £120 miliwn yr un i’r fargen, a bydd y sector preifat a phartneriaid eraill yn buddsoddi gweddill yr arian.
OS YDYM NI’N CAEL SETLIAD GWAEL, BYDD YN RHAID I NI YSTYRIED TORIADAU PELLACH. DWEUD EICH DWEUD…
Mae Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, sef cydweithrediad rhwng y chwe awdurdod lleol a phartneriaid rhanbarthol, wedi amcangyfrif y gallai buddsoddiad o £240 miliwn gan y llywodraeth arwain at greu 4,000 o swyddi a sicrhau buddsoddiad gwerth dros £500 miliwn yn y sector preifat dros y 15 mlynedd nesaf.
Os ydym ni’n cael setliad gwael, bydd yn rhaid i ni ystyried toriadau pellach. Dweud eich dweud.
DWEUD EICH DWEUD