Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Mae batris cudd yn achosi tanau…peidiwch byth â’u rhoi mewn bin i gadw pawb yn ddiogel
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Mae GradCon Cymru yn dod i’r Gogledd am y tro cyntaf
Mae GradCon Cymru yn dod i’r Gogledd am y tro cyntaf
Busnes ac addysg Digwyddiadau Pobl a lle
Wrexham museum
Cyfnod newydd i Amgueddfa Wrecsam
Pobl a lle Y cyngor
Image: Residents and staff at Penygelli care home in Wrexham.
Preswylwyr cartrefi gofal yn dod at ei gilydd i greu llyfr ryseitiau calonogol
Pobl a lle
Llay coal tip in Wrexham
Dyfarnwyd dros £1.3 miliwn i Gyngor Wrecsam o gynllun Grant Diogelwch Tomenni Glo
Arall
The renal team at the Maelor Hospital in Wrexham
12 Mawrth yw Diwrnod Arennau’r Byd!
Arall
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Mae batris cudd yn achosi tanau…peidiwch byth â’u rhoi mewn bin i gadw pawb yn ddiogel
Pobl a lleY cyngor

Mae batris cudd yn achosi tanau…peidiwch byth â’u rhoi mewn bin i gadw pawb yn ddiogel

Diweddarwyd diwethaf: 2025/09/12 at 2:18 PM
Rhannu
Darllen 4 funud
Batteries
RHANNU

Rydyn ni am atgoffa preswylwyr bod batris ac eitemau trydanol sy’n cael eu rhoi mewn gwastraff cyffredinol yn gallu achosi tanau mewn lorïau biniau neu yn y canolfannau ailgylchu. Mae hyn yn beryglus iawn ac yn rhoi llawer o bobl mewn perygl.

Cynnwys
Sut i ailgylchu batrisSut i ailgylchu fêpsAilgylchu eitemau trydanol yn eich canolfan ailgylchu leol

Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd: “Os ydych chi’n taflu neu guddio batris yn eich biniau, maen nhw’n gallu cael eu malu neu eu tyllu yn ein lorïau biniau sy’n gallu achosi tanau difrifol a pheryglus. Gallai unrhyw fatris sydd heb eu difrodi yn y lorïau achosi tanau yn ddiweddarach yn y canolfannau ailgylchu.

“Mae’r neges yn glir – peidiwch â gadael i’ch batri achosi’r tân nesaf. Ailgylchwch eich hen fatris ac eitemau trydanol yn gywir ac yn gyfrifol a fydd yn helpu i gadw pawb yn ddiogel.”

Mae unrhyw beth sydd â phlwg, batri neu gebl nad yw’n cael ei ailgylchu’n gywir yn gallu peri risg i bobl ac adeiladau, felly gwnewch yn siŵr nad ydych byth yn rhoi’r eitemau hyn yn y bin.

Sut i ailgylchu batris

Batris lithiwm yw’r achosion mwyaf o danau mewn cyfleusterau gwastraff. Gallwch chi ailgylchu pob math o fatris yn y tair canolfan ailgylchu yn Wrecsam – hyd yn oed batris ceir!

Ond os ydych am ailgylchu eich batris cartref cyffredin yn unig, ac os yw’n fwy cyfleus i chi, dylai fod modd i chi eu hailgylchu mewn siop leol hefyd.

Mae hynny oherwydd bod rhaid, ers mis Chwefror 2010, i siopau sy’n gwerthu mwy na 32kg o fatris y flwyddyn (tua 345 x pedwar pecyn o fatris AA) ddarparu cyfleusterau ailgylchu batris yn y siop, felly mae’r holl archfarchnadoedd a manwerthwyr mwy yn darparu’r rhain.

Edrychwch ar Offeryn lleoli Recycle your Electricals i gael gwybod pa rai o’ch siopau lleol fydd yn ailgylchu’ch hen fatris.

Sut i ailgylchu fêps

Ydych chi’n defnyddio fêps? Os felly, mae’n bwysig iawn eich bod chi’n ymgyfarwyddo â sut i gael gwared arnyn nhw’n gywir ac yn ddiogel.

Mae fêps yn gallu cael eu derbyn fel Gwastraff o Gyfarpar Trydanol ac Electronig (WEEE) a gallwch gael gwared arnyn nhw yn y cynhwysydd Offer Domestig Bach (ODB) ym mhob un o’r canolfannau ailgylchu cartref yn Wrecsam.

Bydd nifer o siopau ac archfarchnadoedd sy’n gwerthu fêps hefyd yn gadael i chi eu dychwelyd a’u hailgylchu i chi. Edrychwch ar offeryn lleoli Recycle Your Electricals a theipiwch ‘vapes’ i weld ble gallwch chi gael gwared arnyn nhw.

Ailgylchu eitemau trydanol yn eich canolfan ailgylchu leol

Mae gan y tair canolfan ailgylchu yn Wrecsam fanciau penodol ar gyfer eitemau trydanol.

Os oes gennych eitemau trydanol mewn cyflwr da, gallwch eu rhoi i siop ailddefnyddio Hosbis Nightingale House. Gallwch roi eitemau i’r siop ailddefnyddio yn unrhyw un o’r tair canolfan ailgylchu – siaradwch ag un o’r gweision a fydd yn dangos i chi ble gallwch adael eich eitemau rydych am eu rhoi.

Nid yw’n rhy hwyr i gofrestru ar gyfer casgliadau gwastraff gardd – Newyddion Cyngor Wrecsam

TAGGED: ailgylchu, biniau, bins, gwastraff, recycling, waste
Rhannu
Erthygl flaenorol Partneriaeth rhwng Buglife Cymru a Phrifysgol Wrecsam i roi sylw i bryf y cerrig sydd mewn perygl trwy gelf Partneriaeth rhwng Buglife Cymru a Phrifysgol Wrecsam i roi sylw i bryf y cerrig sydd mewn perygl trwy gelf
Erthygl nesaf Prosiect Dull Adeiladu Modern cyntaf Cyngor Wrecsam gam yn nes at gael ei gwblhau Prosiect Dull Adeiladu Modern cyntaf Cyngor Wrecsam gam yn nes at gael ei gwblhau

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mae GradCon Cymru yn dod i’r Gogledd am y tro cyntaf
Mae GradCon Cymru yn dod i’r Gogledd am y tro cyntaf
Busnes ac addysg Digwyddiadau Pobl a lle Mawrth 16, 2026
Wrexham museum
Cyfnod newydd i Amgueddfa Wrecsam
Pobl a lle Y cyngor Mawrth 16, 2026
Image: Residents and staff at Penygelli care home in Wrexham.
Preswylwyr cartrefi gofal yn dod at ei gilydd i greu llyfr ryseitiau calonogol
Pobl a lle Mawrth 13, 2026
Llay coal tip in Wrexham
Dyfarnwyd dros £1.3 miliwn i Gyngor Wrecsam o gynllun Grant Diogelwch Tomenni Glo
Arall Mawrth 12, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Mae GradCon Cymru yn dod i’r Gogledd am y tro cyntaf
Busnes ac addysgDigwyddiadauPobl a lle

Mae GradCon Cymru yn dod i’r Gogledd am y tro cyntaf

Mawrth 16, 2026
Wrexham museum
Pobl a lleY cyngor

Cyfnod newydd i Amgueddfa Wrecsam

Mawrth 16, 2026
Image: Residents and staff at Penygelli care home in Wrexham.
Pobl a lle

Preswylwyr cartrefi gofal yn dod at ei gilydd i greu llyfr ryseitiau calonogol

Mawrth 13, 2026
Wrexham v Swansea
DigwyddiadauPobl a lle

Wrecsam v Abertawe – beth am barcio a theithio?

Mawrth 11, 2026
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English