Fel rhan o brosiect Cadwch Gymru’n Daclus Caru Cymru, rydym yn gofyn i weithredwyr masnachol a thenantiaid preifat yng nghanol y dref ymdrin â’u gwastraff yn gyfrifol neu wynebu dirwyon a allai arwain at waredu’r bin.
Gwnaethpwyd y penderfyniad hwn yn dilyn cwynion am rai ardaloedd yn edrych yn flêr ac yn denu llygod mawr a fermin eraill.
Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.
Anfonwyd llythyrau at safleoedd a nodwyd yn gofyn iddynt sicrhau bod eu biniau’n cael eu glanhau, eu cloi ac nad oes unrhyw wastraff yn cael ei adael mewn bagiau fel gwastraff ar yr ochr. Mae hefyd yn nodi bod y broblem bellach yn denu fermin i’r ardaloedd.
Meddai’r Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, “Rwyf wedi ymweld â sawl ardal yng nghanol y dref yn ddiweddar a chefais fy synnu gan flerwch y biniau yn nifer o’r ardaloedd cyhoeddus.
“Roedd y mwyafrif o’r biniau a welais ar y briffordd gyhoeddus ac yn gorlenwi. Yn ogystal â hynny, roedd llawer o wastraff ar yr ochr yn aros i gael ei gasglu gan swyddogion amgylcheddol canol y dref, sy’n golygu defnyddio amser ac arian gwerthfawr.
“Mae gan bawb ym mhob ardal yn Wrecsam ddyletswydd gofal i sicrhau eu bod yn gwaredu sbwriel yn gywir ac rydym yn atgoffa aelwydydd o hyn yn rheolaidd. Teimlwyd felly ei bod ond yn deg gofyn i weithredwyr masnachol a thenantiaid canol y dref wneud yr un fath yn arbennig yn yr ardaloedd lle mae problemau wedi’u nodi.
“Rydym wirioneddol yn gwneud ein gorau i sicrhau bod canol y dref yn parhau i fod yn lân ac yn daclus a gallwn ond cyflawni hyn drwy weithio gyda’n gilydd i sicrhau bod pobman yn lân ac yn daclus bob amser.
“Gobeithiaf y byddwn yn gallu mynd i’r afael â’r broblem hon cyn gynted â phosibl ac y bydd pawb yn gwneud eu rhan i gadw Wrecsam yn daclus.”
DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL