Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen “Mae bob plentyn yn haeddu cael llyfr”
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
wrexham library
‘A Pack of Five’ (Wedi’i ysbrydoli gan Hedd Wyn)
Digwyddiadau
good to grow
Da i Dyfu
Busnes ac addysg Pobl a lle
PlayDay
Diwrnod Chwarae Wrecsam 2025
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Ydych chi’n weithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso? Dechreuwch eich gyrfa yn Wrecsam
Ydych chi’n weithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso? Dechreuwch eich gyrfa yn Wrecsam
Arall Fideo Y cyngor
Plastic Free July
Ymunwch â’r miliynau sy’n cymryd rhan yn Gorffennaf Heb Blastig
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > “Mae bob plentyn yn haeddu cael llyfr”
Pobl a lleY cyngor

“Mae bob plentyn yn haeddu cael llyfr”

Diweddarwyd diwethaf: 2018/09/06 at 3:41 PM
Rhannu
Darllen 4 funud
“Mae bob plentyn yn haeddu cael llyfr”
RHANNU

Nid yw hi fyth rhy gynnar i ddechrau rhannu llyfrau, straeon a rhigymau.

Cynnwys
 “Mae bob plentyn yn haeddu cael llyfr”Mae 2613 o becynnau wedi eu dosbarthu yn y 12 mis diwethaf…Dechrau Da BabiDechrau Da Blynyddoedd Cynnar

Trwy Dechrau Da, mae BookTrust Cymru yn sicrhau bod gan bob plentyn yng Nghymru eu llyfrau eu hunain gartref ac yn cefnogi teuluoedd i ddarllen gyda’i gilydd yn rheolaidd.

Mae bob plentyn yng Nghymru yn derbyn dau becyn Dechrau Da arbennig, a gaiff eu rhoi i deuluoedd gan Ymwelwyr Iechyd. Mae llyfrgelloedd yn Wrecsam yn cydlynu gyda Dechrau Da i gynnal sesiynau Amser Rhigwm ac Amser Stori i’ch helpu chi a’ch plentyn i fwynhau llyfrau a rhigymau a pharhau i ddarllen.

PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…

- Cofrestru -
Eisteddfod Wrecsam 2025

 “Mae bob plentyn yn haeddu cael llyfr”

Dywedodd y Cyng. Hugh Jones, Aelod Arweiniol Pobl, Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Mae Dechrau Da yn fenter wych sy’n annog cariad tuag at lyfrau, storïau a rhigymau o oedran cynnar. Mae’n braf bod ein llyfrgelloedd yn gweithio’n agos gyda Dechrau Da Cymru er mwyn darparu’r fenter i blant Wrecsam. Mae ein llyfrgelloedd hefyd yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau i blant ifanc trwy gydol y flwyddyn a hoffwn annog pawb i ddarganfod beth all eu llyfrgell leol ei gynnig iddyn nhw”

Mae 2613 o becynnau wedi eu dosbarthu yn y 12 mis diwethaf…

Mae Dechrau Da, o bosib, wedi cyrraedd dros 8 allan o 10 o blant yn Wrecsam. Mae dros 2613 o becynnau wedi’u dosbarthu drwy wasanaeth llyfrgell Wrecsam yn ystod y 12 mis diwethaf. Mae BookTrust yn credu bod plant sy’n cael eu cyflwyno i lyfrau’n gynnar ac sy’n clywed rhywun yn darllen iddynt bob dydd, yn elwa’n addysgol, diwylliannol, cymdeithasol ac emosiynol.

Mae gan bob plentyn yng Nghymru a Lloegr yr hawl i  gael pecyn Dechrau Da am ddim yn ystod dau gyfnod allweddol cyn ysgol. Y rhain yw…

Dechrau Da Babi

Fel rheol, mae pecyn Dechrau Da Babi yn cael ei roi i’ch plentyn yn ystod archwiliadau iechyd pan fydd y babi’n 6 mis oed. Mae’n cynnwys llyfr Cymraeg a llyfr Saesneg, a ddewiswyd yn ofalus i apelio at blant ifanc iawn, a llyfryn arbennig sy’n cynnwys syniadau ar gyfer rhannu llyfrau, straeon a rhigymau.

Dechrau Da Blynyddoedd Cynnar

Fel rheol, mae pecyn Dechrau Da Blynyddoedd Cynnar yn cael ei roi i’ch plentyn yn ystod archwiliadau iechyd pan fydd y plentyn bach yn 27 mis oed. Mae’n cynnwys llyfr stori a llun Cymraeg a Saesneg, a llyfryn yn llawn syniadau ar gyfer rhannu llyfrau, straeon a rhigymau. Mae bag gwyrdd Dechrau Da Blynyddoedd Cynnar wedi’i ddylunio i blant bach ei ddal – ac yn ddelfrydol iddynt ei gario i’r llyfrgell.

Mae Dechrau Da hefyd yn cynnig pecynnau am ddim i blant sydd ag anghenion ychwanegol,  cyngor a chanllaw ar ddarllen gyda’ch gilydd, adnoddau a gweithgareddau a llawer mwy. Maent yn annog teuluoedd i rannu llyfrau, straeon a rhigymau o’r cychwyn cyntaf, i fwynhau llyfrau a datblygu hoffter o ddarllen er mwynhad. Mae darllen a rhannu llyfrau, straeon a rhigymau o oedran cynnar yn cefnogi ystod o ganlyniadau, gan gynnwys iaith gynnar gadarnhaol, datblygiad sgiliau llafaredd a chyfathrebu, datblygu perthynas/ perthynas glos rhwng y plentyn-rhiant a llythrennedd cynnar ac mae staff y gwasanaethau llyfrgell yn deall pwysigrwydd darllen o oedran cynnar iawn.

Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn gymwysterol…

YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION

Rhannu
Erthygl flaenorol Young People Bullying Bobl ifanc 11–25 – beth am siarad am fwlio?
Erthygl nesaf business workshop wrexham Digwyddiadau gwych i helpu busnesau drwy’r broses tendro…

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

wrexham library
‘A Pack of Five’ (Wedi’i ysbrydoli gan Hedd Wyn)
Digwyddiadau Gorffennaf 15, 2025
good to grow
Da i Dyfu
Busnes ac addysg Pobl a lle Gorffennaf 14, 2025
PlayDay
Diwrnod Chwarae Wrecsam 2025
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor Gorffennaf 14, 2025
Ydych chi’n weithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso? Dechreuwch eich gyrfa yn Wrecsam
Ydych chi’n weithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso? Dechreuwch eich gyrfa yn Wrecsam
Arall Fideo Y cyngor Gorffennaf 14, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

good to grow
Busnes ac addysgPobl a lle

Da i Dyfu

Gorffennaf 14, 2025
PlayDay
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Diwrnod Chwarae Wrecsam 2025

Gorffennaf 14, 2025
Ydych chi’n weithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso? Dechreuwch eich gyrfa yn Wrecsam
ArallFideoY cyngor

Ydych chi’n weithiwr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso? Dechreuwch eich gyrfa yn Wrecsam

Gorffennaf 14, 2025
Plastic Free July
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Ymunwch â’r miliynau sy’n cymryd rhan yn Gorffennaf Heb Blastig

Gorffennaf 11, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English