Young People Bullying

Mae Senedd yr Ifanc yn parhau i weithio’n galed i herio’r materion allweddol sy’n bwysig i bobl ifanc.

Maent am fynd i’r afael â’r pethau sy’n bwysig i chi, eich grwpiau ac ysgolion.

Y mater a ddaeth i’r brig yn y bleidlais ym mis Rhagfyr 2017 oedd Rhwystro ac Atal Bwlio’. Y nod yw lleihau’r stigma sy’n gysylltiedig â bwlio a chodi ymwybyddiaeth ohono.

Pleidleisiodd 258 o bobl mai’r mater hwn yw’r pwysicaf iddyn nhw ac rydym yn cytuno ei fod yn arbennig o bwysig.

PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…

Dyma sut gallwch chi helpu…

Mae’r Senedd bellach yn chwilio am wybodaeth mwy manwl, ac i’w helpu i gyflawni hyn maent wedi datblygu holiadur ar-lein ar gyfer pobl rhwng 11 a 25 oed.

Nod yr arolwg yw darganfod yr effaith mae bwlio yn ei gael ar bobl ifanc ac edrych am ffyrdd i atal bwlio rhag digwydd.

Byddant yn edrych yn benodol ar y bwlio sy’n digwydd mewn ysgolion. Yn allweddol i hyn fydd lleihau’r stigma sy’n gysylltiedig â bwlio a chodi ymwybyddiaeth.

Bydd yr holiadur yn fyw hyd at 16 Tachwedd ac fe’ch anogir i ddweud eich barn am y pwnc pwysig iawn hwn.

Mae Caroline Bennett, Cydgysylltydd Cyfranogiad yn dweud pam y dylech gymryd rhan:
“Mae Senedd yr Ifanc yn gyfle gwych i bobl ifanc gymryd rhan yn y materion a gyflwynir i ni gan bobl ifanc.

“Mae bwlio yn effeithio nifer fawr o bobl ifanc a bydd gwell dealltwriaeth o gymorth i fynd i’r afael â hyn. Gall ein pobl ifanc ein helpu i ddeall mwy am bwlio drwy gwblhau’r holiadur.”

A pheidiwch â phoeni os nad ydych yn deall technoleg… mae copïau papur o’r holiadur ar gael ar gair.

Mae cyfle hefyd i ennill taleb gwerth £30 o’ch dewis chi… nodwch eich cyfeiriad e-bost ar ddiwedd yr arolwg er mwyn cael cyfle i’w ennill!

I gwblhau’r arolwg, cliciwch y ddolen isod…

Iawn… fe wna i lenwi’r arolwg Na… Dw i’n iawn ddiolch