Os ydych chi’n hunan-ynysu neu’n cadw pellter cymdeithasol, gall yr wythnosau nesaf fod yn adeg unig iawn.
Ac er ein bod ni’n dweud yn aml fod angen i bobl dreulio llai o amser ar dechnoleg, dyma’r cyfnod lle gall dechnoleg achub y dydd!
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU
Os ydych chi’n defnyddio What’s App, Facebook Messenger, Zoom, House Party neu unrhyw un o’r apiau eraill sydd ar gael ar gyfer ffonio ar fideo, mae cymaint o ffyrdd i gadw mewn cysylltiaf – mae gymaint ohonom ni yn gwneud hwn yn barod a gall hwn fod yn adnodd pwysig i bobl ar ben ei hunan neu sydd i ffwrdd o’u deuluoedd.
Os nad ydych wedi sefydlu ffordd er mwyn ffonio ar fideo gyda’ch ffrindiau a theulu, ac os nad ydych yn siŵr lle i ddechrau, gall y dudalen hon eich helpu. Mae canllawiau i sefydlu nifer o wahanol apiau ar gyfer ffonio ar fideo, sydd hefyd yn gadael i chi siarad fel grŵp, yn ogystal â’r wybodaeth ddiweddaraf am y Coronafeirws, cyngor gan y Samariaid ac Age Concern.
#cadwchynddiogel
Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19