Mae’r Calendrau Casglu biniau a gwastraff ailgylchu newydd ar gyfer 2020-21 bellach ar ein gwefan.
Nid oes unrhyw newidiadau i’ch diwrnod casglu – oni bai am y newidiadau arferol dros gyfnod y Nadolig, felly ewch i gael golwg arnynt.
Bydd casgliadau gwastraff gardd y bin gwyrdd yn rhedeg o fis Rhagfyr, 2020 i fis Chwefror 2021, ar gyfer y rheiny sydd wedi talu am y gwasanaeth, gyda chasgliadau arferol bob pythefnos yn ailgychwyn ym mis Mawrth.
Lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG ….a helpwch i gadw Wrecsam yn ddiogel yr hydref yma.
Bydd pob casgliad deunydd ailgylchadwy wrth ymyl y ffordd arall yn parhau i fod yn wythnosol.
Os nad oes arnoch chi eisiau gwirio eich calendr bob wythnos, gallwch gofrestru i dderbyn rhybuddion e-bost i’ch atgoffa i roi eich bin allan a pha fin i’w roi allan ddiwrnod cyn y casgliadau.
“Ni fydd yn cymryd pum munud o’ch amser”
Dywedodd y Cynghorydd David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Gan fod nifer gynyddol o bobl Wrecsam bellach ar-lein, drwy ffonau clyfar a thabledi, rydym am wneud yn siŵr fod preswylwyr yn ymwybodol y gallant nawr gael eu calendr gwastraff ac ailgylchu ar-lein.
“Mae’n syml ac ni fydd yn cymryd pum munud o’ch amser, ond gall arbed preswylwyr rhag colli casgliadau biniau.”
Sut ydw i’n mynd ati i gael fy nghalendr?
I lawrlwytho neu argraffu eich calendr, nodwch eich cod post neu cofrestrwch ar gyfer y rhybuddion e-bost a gaiff eu hanfon atoch ddiwrnod cyn eich casgliad i roi gwybod i chi pa fin i’w roi allan.
Check out when your bin is being collected
Lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG ….a helpwch i gadw Wrecsam yn ddiogel yr hydref yma.
Lawrlwythwch yr ap GIG