Fel rhan o’n Thema Cariad, gall ymwelwyr weld y Glustog Pin Calon sy’n rhan o gasgliad y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig.
Cafodd clustogau calon fel yr un yma sy’n dyddio’n ôl i’r Rhyfel Byd Cyntaf eu gwneud gan filwyr ar gyfer eu hanwyliaid gartref. Yn dod fel cit, cawsant eu gwneud yn aml gan filwyr a oedd yn gwella yn yr ysbyty ar ôl cael anaf. Wedi’u haddurno â gleiniau, roedden nhw’n cynnwys enw catrawd y milwr a dywediadau fel “think of me” a “forget me not”.
“Chwilio am anrheg arbennig ar gyfer eich cariad ar ddydd Gŵyl Sain Folant?”
Newydd gyrraedd yn siop anrhegion Amgueddfa Wrecsam y mae lolipops blodau hardd wedi’u gwneud â llaw. Mae’r lolipops blasus hyn wedi’u gwneud o flodau cartref, ac mae pob petal wedi’u cynnal â llaw i gadw eu perffeithrwydd naturiol.
Caiff y blodau eu tyfu a’u cynhyrchu yn lleol yn Nyffryn Dyfrdwy a chaiff y lolipops eu hallforio i bob rhan o’r byd.
Yn anrheg arbennig ar gyfer unigolyn arbennig, cynhyrchir y lolipops mewn amrywiol liwiau ac maen nhw’n £2.99 yr un.
Neu fe gewch un AM DDIM pan fyddwch yn archebu ein Te Prynhawn Sain Folant Pefriog.
“Te prynhawn Sain Folant”
Cewch fwynhau ein te prynhawn hyfryd sy’n cynnwys detholiad o frechdanau ffres, danteithfwyd lleol, cacennau bendigedig a rhodd arbennig iawn i’ch anwylyd. Lolipop blodau AM DDIM
Mae’r te prynhawn pefriog ar gael o 14 Chwefror rhwng 1.30pm a 4pm am £24.95 i ddau.
Rhaid archebu lle yng Nghaffi’r Cowrt drwy ffonio 01978 297469 neu anfon e-bost at amgueddfa@wrecsam.gov.uk
Ffôn: 01978 297460 Cyfeiriad e-bost amgueddfa@wrecsam.gov.uk FB Amgueddfeydd Wrecsam
Diwrnod rhamantus hyfryd yn Amgueddfa Wrecsam.
Peidiwch â cholli allan…dilynwch ni ar Snapchat.
DILYNWCH NI AR SNAPCHAT