Rydym yn llawn cyffro i gyhoeddi bod Clinigau Busnesau Newydd yn dychwelyd i Wrecsam – ond yn wahanol y tro hwn!
Mae’r clinigau, sy’n dechrau ar 22 Gorffennaf, wedi’u cynllunio i gefnogi entrepreneuriaid newydd a rhai sy’n dod i’r amlwg o unrhyw oedran i ddatblygu a mireinio eu syniadau busnes. Bydd y sesiynau hyn yn cynnig arweiniad ymarferol a chyngor lefel uchel i helpu i osod sylfaen ar gyfer llwyddiant.
Eleni, gallai cyfranogwyr 30+ oed, sydd â syniad busnes hyfyw, gael cyfle i gyflwyno i sicrhau cyllid ymlaen llaw, heb unrhyw ofyniad cyfatebol, yn amrywio o £500 i £1,500.
Bydd y digwyddiad hwn ar 22 Gorffennaf yn cael ei gynnal yn adeilad Banc Datblygu Cymru ar Rodfa Ellice, Parc Technoleg Wrecsam. Mae’n ddigwyddiad trwy’r dydd gyda mynychwyr yn cael apwyntiadau 30 munud.
Dywedodd Nigel Williams, yr aelod arweiniol dros yr economi, busnes a thwristiaeth: “Nod y fenter hon yw grymuso talent leol, meithrin arloesi a throi syniadau gwych yn fentrau llwyddiannus ac mae wedi’i galluogi gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin.
“Os oes gennych syniad busnes hyfyw, ond angen hwb i ddechrau, rwy’n eich annog i gysylltu â’r tîm a gwneud apwyntiad – gallai hyn fod yn ddechrau o ran cael eich syniad busnes oddi ar y dudalen ac i’r byd go iawn.”
Mae cynlluniau cyllid eraill ar gael i unigolion cymwys hyd at 30 oed, a gellir darparu manylion amdanynt.
I gael gwybod mwy neu i drefnu eich apwyntiad, ffoniwch dîm busnes a buddsoddi’r cyngor ar 01978 667000 neu e-bostiwch business@wrexham.gov.uk.
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.