Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Mae CThEM yn annog busnesau moduron bach a phobl sy’n selog dros geir yng Nghymru i fod yn ymwybodol o newidiadau yn sgil Brexit ac i baratoi eu hunain cyn Ionawr 2022
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Mae CThEM yn annog busnesau moduron bach a phobl sy’n selog dros geir yng Nghymru i fod yn ymwybodol o newidiadau yn sgil Brexit ac i baratoi eu hunain cyn Ionawr 2022
Busnes ac addysg

Mae CThEM yn annog busnesau moduron bach a phobl sy’n selog dros geir yng Nghymru i fod yn ymwybodol o newidiadau yn sgil Brexit ac i baratoi eu hunain cyn Ionawr 2022

Diweddarwyd diwethaf: Hydref 11, 2021 5:15 pm
Rhannu
Darllen 5 funud
HMRC
RHANNU

Erthyl Gwadd – Mae Cyllid a Thollau EM (CThEM)

Mae Cyllid a Thollau EM (CThEM) yn annog busnesau bach a selogion yn y sector cerbydau i fod yn ymwybodol o reolau yn sgil Brexit wrth anfon a derbyn cydrannau o Ewrop neu wrth deithio ar draws Ewrop i fynychu digwyddiadau, er mwyn sicrhau nad ydyny yn cael eu dal allan.

Mae rheolau newydd wedi bod ar waith ers mis Ionawr eleni ac er y bydd busnesau mwy sydd wedi’u cofrestru ar gyfer TAW wedi ymgyfarwyddo â’r newidiadau eisoes, efallai na fydd busnesau llai megis garejys annibynnol a manwerthwyr cydrannau arbenigol yn gwbl ymwybodol o’r newidiadau i’r rheolau mewnforio ac allforio a sut mae’r newidiadau hyn yn berthnasol iddynt.

Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.

Yn yr un modd, ar gyfer hobïwyr moduron a allai fod eisiau archebu cydran arbenigol o’r UE i adfer car clasurol, neu a allai fod yn dymuno teithio ar draws Ewrop i rali, ni fyddai llawer wedi gorfod delio â’r newidiadau tan yn ddiweddar.

Gyda ralïau, arddangosfeydd ceir clasurol a sawl gŵyl ar eu hanterth, gan gynnwys y Sioe Cerbydau Clasurol yn Birmingham sydd i ddod, ac yna ymhellach i ffwrdd yr ‘Auto e Moto D’Epoca’ yn yr Eidal, mae selogion yn cael eu hannog i wirio eu bod yn deall y gofynion newydd.

Mae CThEM wedi cynhyrchu arweiniad i helpu pobl i gael hyd i’r dull gorau o ddelio â’r newidiadau.

Mae yna hefyd Offeryn Ar-lein i Fasnachwyr i sicrhau nad yw busnesau bach yn cael eu dal allan gan ffioedd annisgwyl neu oedi diangen. Mae’r offeryn hefyd yn amlygu prosesau y gellir eu dilyn. Ar ben hynny, mae’r arweiniad yn rhoi gwybodaeth sydd ei hangen i sicrhau bod busnesau bach yn barod cyn mis Ionawr nesaf pan fydd datganiadau a rheolaethau llawn y tollau yn cael eu cyflwyno.

Os yw busnesau bach hefyd yn symud cydrannau neu offer rhwng Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon, gallant gofrestru gyda’r Gwasanaeth Cymorth i Fasnachwyr sy’n rhad ac am ddim.

Dywedodd Katherine Green a Sophie Dean, Cyfarwyddwyr Cyffredinol, Ffiniau a Masnachu, CThEM:

“Wrth i gyfyngiadau teithio gael eu codi ac wrth i fwy o ddigwyddiadau gael eu cynnal, rydym am i selogion cerbydau allu parhau i fwynhau eu ceir, eu beiciau modur a’u cerbydau gwersylla fel y maen nhw wedi gwneud erioed.

“Fodd bynnag, rydym yn gwybod na fyddai llawer o bobl wedi rhagweld y byddai’r newidiadau a gyflwynwyd ar ddechrau’r flwyddyn yn effeithio arnyn nhw, a dyna pam rydym yn eu hannog i sicrhau eu bod yn deall yr ymrwymiadau newydd trwy ddefnyddio’r arweiniad sydd ar gael iddyn nhw – ar GOV.UK, yn un o’n fideos YouTube neu trwy ein fforymau i gwsmeriaid. Bydd dod i arfer â’r prosesau newydd nawr yn eu rhoi mewn sefyllfa dda cyn mis Ionawr.”

Cefndir

Mae cysylltiadau at ragor o help a chymorth ar gael ar GOV.UK

Mae fideo ar sut i ddefnyddio’r offeryn ar-lein i fasnachwyr a fideos byr eraill ar brosesau’r tollau a’r hyn y mae angen i fusnesau ei wybod am fasnachu nwyddau gyda’r UE i’w cael ar sianel YouTube CThEM.

I ofyn cwestiynau penodol am brosesau CThEM ar gyfer mewnforio neu allforio ac i gael hyd i atebion i’ch cwestiynau, ewch i fforymau cwsmeriaid CThEM.

Mae ymgynghorwyr gwasanaeth i gwsmeriaid CThEM ar gael i ateb cwestiynau ar y llinell gymorth Tollau a Masnach Ryngwladol. Byddant yn helpu gyda materion ynghylch mewnforio, allforio a rhyddhad tollau. Mae’r llinell gymorth ar agor rhwng 08:30 a 17:00, dydd Llun i ddydd Gwener. Ffoniwch 0300 200 1900 i siarad ag ymgynghorydd.

Os ydych chi’n chwilio am yrfa newydd ac os hoffech chi helpu pobl yn eich cymuned, ystyriwch swydd gofal cymdeithasol.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://fynghyfrif.wrecsam.gov.uk/cy/service/care_jobs_in_wrexham”]DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Mobile App Newyddion Llyfrgelloedd – Ap Pori
Erthygl nesaf Hate Crime Mae hi’n Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Sam Gardner
Athro ac awdur i roi sgwrs bwerus ar y system ofal
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 8, 2026
Horace outside Wrexham Library
Braw i bawb yn Llyfrgell Wrecsam
Fideo Pobl a lle Y cyngor
Hydref 8, 2026
All Saints School Pupils
Aur i Gresffordd – Ysgol yr Holl Saint yn creu hanes yn Wrecsam!
Busnes ac addysg Pobl a lle
Hydref 7, 2026
Housing Image
Adran Tai Cyngor Wrecsam yn parhau i ymrwymo i Safonau Ansawdd Tai Cymru
Y cyngor
Hydref 7, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Twf cynaliadwy gyda chefnogaeth Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam
Busnes ac addysg

Twf cynaliadwy gyda chefnogaeth Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam

Hydref 6, 2026
Mae rhagolygon gyrfa newydd ychydig o gliciau i ffwrdd! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf...
Busnes ac addysg

Mae rhagolygon gyrfa newydd ychydig o gliciau i ffwrdd! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…

Medi 29, 2026
Cystadleuaeth Dylunio Cymeriad
Busnes ac addysgDigwyddiadauPobl a lle

Lansio cystadleuaeth gelf i blant wrth i ddathliadau’r Flwyddyn o Ryfeddod barhau

Medi 29, 2026
Ysgol I D Hooson
Busnes ac addysg

Gwaith yn Ysgol I D Hooson yn dechrau’n swyddogol

Medi 25, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English