Mae canolfan gymunedol leol wedi cael ei hailwampio gan gontractwr sydd yn gweithio mewn partneriaeth gyda Chyngor Wrecsam.
Cafodd Canolfan Gymunedol Johnstown ei hailwampio fel rhodd gan Novus Property Solutions, contractwr sydd wedi bod yn gosod ceginau ac ystafelloedd ymolchi newydd yn ardal Johnstown.
Cafodd llawr newydd ei osod ym mhrif neuadd yr adeilad, a chafodd y lle ei ailbeintio.
Cafodd y gwaith ei gynnal yn rhan o gynllun Budd Cymunedol, sy’n ei gwneud yn ofynnol bod contractwyr yn gwneud gwaith gwella tai i’r cyngor i ‘roi rhywbeth ychwanegol’ yn ôl i’r ardaloedd y maent wedi bod yn gweithio ynddynt.
Mae Novus wedi bod yn defnyddio’r ganolfan fel swyddfa safle tra bod y gwaith gosod ceginau ac ystafelloedd ymolchi wedi bod yn mynd rhagddo.
Rhoi rhywbeth ychwanegol yn ôl i’r gymuned leol
Yn ogystal ag ailwampio’r brif neuadd, fe fu Novus yn ailaddurno’r ystafelloedd newid yng Nghlwb Pêl-droed Johnstown fel rhan o Fudd Cymunedol, ac fe wnaethant gynnal diwrnod o hwyl i’r teulu i denantiaid yn ystod yr haf.
Dywedodd Jeremy Anderson, Rheolwr Gweithrediadau Novus Property Solutions: “Rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda Chyngor Sir Wrecsam ers sawl blwyddyn ac rydym bob amser yn awyddus i helpu’r cymunedau lleol mewn unrhyw ffordd y gallwn – boed hynny’n cynnal diwrnod hwyl i’r teulu neu wirfoddoli ein hamser i adfywio lle cymunedol blinedig. Fel busnes, rydym wedi ymrwymo i gael effaith gadarnhaol ar y cymunedau yr ydym yn gweithredu ynddynt ac mae ailwampio Canolfan Gymunedol Johnstown yn enghraifft berffaith o hyn ar waith.”
Dywedodd Aelod Lleol dros Johnstown, Cynghorydd David Bithell: “Mae gwaith gwella wedi cael eu cynnal mewn tai cyngor ar hyd a lled ardal Johnstown dros y misoedd diwethaf, a dwi wrth fy modd bod y contractwyr wedi gallu rhoi rhywbeth yn ôl i’r gymuned ac ymgysylltu mor agos â thenantiaid lleol. Dwi’n siŵr y bydd y nifer o grwpiau lleol sydd yn defnyddio’r ganolfan gymunedol brysur hon yn gwerthfawrogi’r gwaith ailwampio. Mae’r ganolfan bellach yn addas at y dyfodol ac fe hoffwn ddiolch i Novus Property Solutions am wneud gwaith gwych”.
Blwyddyn gofnod ar gyfer gwella tai
Mae’r gwaith gwella tai yn Johnstown yn rhan o’n prosiect enfawr i sicrhau ein bod yn cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru erbyn 2020.
Mae record o £56.4m yn cael ei fuddsoddi yn y gwaith yma yn ystod 2017/18 yn unig. Mae hyn yn cynnwys grant Lwfans Atgyweiriadau Mawr o £7.5 miliwn a ddyfernir gan Lywodraeth Cymru i helpu awdurdodau lleol i gyrraedd y safon newydd. Mae’r gwelliannau yn cynnwys ceginau ac ystafelloedd ymolchi newydd, systemau gwres canolog newydd, gwaith ailweirio trydanol, a gwelliannau mewnol ac allanol eraill megis ail-doi a gosod inswleiddiad mewn waliau allanol.
Economi leol wedi cael hwb gan y buddsoddiad
Mae pob math o gynlluniau Budd Cymunedol wedi cael eu sefydlu o ganlyniad i’r buddsoddiad yn y gwaith gwella yma. Yn ogystal ag ailwampio cyfleusterau cymunedol, gall y cynlluniau hefyd gynnwys cyflogi gweithlu a phrentisiaid modern lleol, prynu cyflenwadau gan fusnesau lleol a noddi grwpiau a thimau chwaraeon lleol.
Dywedodd yr Aelod Arweiniol Tai, y Cynghorydd David Griffiths: “Gyda buddsoddiad mor fawr, mae hi’n bwysig bod cymaint o’r arian yma â phosibl yn mynd nôl mewn i’n heconomi leol. Mae hi’n galonogol iawn gweld cymaint o gynlluniau fel hyn yn digwydd ar hyd a lled y fwrdeistref sirol. Fe fydd hyn yn parhau wrth i’r gwaith o gyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru fynd yn ei flaen”.
Os ydych chi eisiau gwybod mwy am gynlluniau Budd-dal Cymunedol a Safon Ansawdd Tai Cymru, edrychwch ar wefan y cyngor