Yr hydref diwethaf bu i Arolygiaeth Gofal Cymru gynnal arolwg wythnos o hyd o Ofal Cymdeithasol yn Wrecsam a nodwyd nifer o gryfderau allweddol, gan gynnwys arweinyddiaeth gref a diwylliant newydd o ddisgwyliadau a safonau uwch.
Nodwyd hefyd fod gweithwyr yn gadarnhaol ynglŷn â gweithio i’r Cyngor; mae morâl yn dda, mae staff yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac mae rheolwyr yn gefnogol ac yn hawdd mynd atynt.
Felly sut y bu i siwrnai wella Wrecsam ddechrau? Yn 2020, sefydlwyd Uwch Dîm Rheoli newydd, a bu iddynt, yng nghanol pandemig Covid, y cyfnod anoddaf mae’n debyg i Brydain yn y degawdau diweddar, ail-ddylunio darparu gwasanaethau i sicrhau fod plant yn cael eu diogelu ac roedd hyrwyddo eu lles yn ganolog i bob dim a wnaethant.
Mae mwy o wybodaeth am gyfleoedd gyrfa yng Nghyngor Wrecsam ar gael ar borth swyddi’r Cyngor.
Mae’r Cynghorydd Rob Walsh, Aelod Arweiniol Gofal Cymdeithasol Plant, yn egluro: “Ychydig o flynyddoedd yn ôl roedd pethau’n anodd iawn yng ngofal cymdeithasol plant ac roeddem yn gwybod fod rhaid i ni newid.
“Yn gyntaf, roeddem yn gwybod fod rhaid i ni wella’r ffordd roedd gofal cymdeithasol yn cael ei ariannu, ac roedd sicrhau cefnogaeth wleidyddol ar gyfer cyllid ac adnoddau ychwanegol yn hanfodol.
“Yna dechreuodd y pandemig, ond mewn nifer o ffyrdd roedd yn gatalydd ar gyfer gwelliant – bu iddo ein gorfodi i ail-werthuso sut rydym yn gwneud pethau, y ffordd rydym yn defnyddio technoleg, ein prosesau, a sut rydym yn sicrhau fod lleisiau plant yn ganolog i bopeth a wnawn yng Ngofal Cymdeithasol Plant.
“Bu i ni wneud llawer o welliannau ac rydym yn parhau i’w datblygu ar ôl y pandemig, ac rwy’n credu bod gennym bellach un o’r adrannau gwasanaethau cymdeithasol mwyaf blaengar yng Nghymru. Mae’n debyg fod yr arolwg AGC y gorau rydym erioed wedi ei gael.”
Fel ym mhob sefydliad, mae gweithwyr wedi bod yn ganolog i gynnydd yng Nghyngor Wrecsam, ac mae sicrhau fod staff yn cael cefnogaeth wedi bod yn gonglfaen i lwyddiant. Mae Gofal Cymdeithasol Wrecsam wedi gweithredu Fframwaith Ymgysylltu â’r Gweithlu i wreiddio diwylliant ble mae’r gweithle yn gyrru datblygiad gwasanaeth.
Dywedodd Alwyn Jones, Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol: “Mae’r tîm arweinyddiaeth wedi croesawu dull hyfforddi a dysgu sy’n galluogi’r gweithlu i ddatblygu a chyrraedd eu potensial llawn. Mae Wrecsam yn ffodus iawn o gael gweithlu talentog ac ymroddedig iawn sydd wedi ymrwymo i rymuso plant a theuluoedd i gyflawni eu canlyniadau gorau.
“Dywedodd AGC fod gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, yn teimlo’n hapus ac mae ganddynt fynediad at lawer o gefnogaeth gan reolwyr, ac rwy’n meddwl mai dyna’r prif reswm ein bod wedi gwneud cymaint o gynnydd.
“Pobl yw ein hased mwyaf gwerthfawr ac mae diwylliant cryf, gwydn iawn ar draws ein timau sy’n rhoi’r hyder i’n gweithwyr ac yn caniatáu iddynt arloesi a ffynnu.
“Yr haf hwn rydym yn gobeithio recriwtio hyd yn oed mwy o dalent i nifer o swyddi allweddol. Os ydych wedi ymrwymo i ymarfer o ansawdd a gwella canlyniadau i blant, pobl ifanc a’u teuluoedd a byddech yn hoff o ymuno a bod yn rhan o’r siwrnai barhaus o welliant, yna Gofal Cymdeithasol Plant Wrecsam yw’r lle i chi.
Mae mwy o wybodaeth am gyfleoedd gyrfa yng Nghyngor Wrecsam ar gael ar borth swyddi’r Cyngor.